Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae 'na ryw fath o 'gynefindra' yn perthyn i'r rhaglen dwi'n meddwl
Yn union... a dyna dwi ddim yn licio, enwedig ar fora Sadwrn. Ma popetgh sydd ddim dan 'faner' C2 efo 'cynefindra' ynddynt, sydd yn iawn i lot o foblogaeth ein gwlad gwledig, ond mae angen amrywieth yn does.
Os tisho 'cynefindra' gwranda ar Dai Jones Llanilar neu John ac Alun neu wbath. Dwi, yn bersonol, ddim isho rhoi'r radio mlaen bora Sadwrn ar gyfer 'cynefino'n hun', dwisho roi o mlaen i wrando ar fiwsig da a chyfoes ag i gael hwyl wrth neud ffrai yp a paratoi i fynd allan. Dim canu "doeddan nw'n ddyddiau da"!
Ma lawr i chwant personol amwn i yndi? I mi mae rhaglen R.Rees yn gneud i mi newid y donfedd, yn anffodus i orsaf Saesneg sy'n llawer fwy deinameg, cyfoes a chyffroes ar fora Sadwrn.