gan Nei » Mer 10 Meh 2009 2:34 pm
cytuno ei bod hi'n rhaglen drist ofnadwy, yn enwedig yn achos Dave. Serch 'ny, wy'n cwestiynnu a oedd angen dangos Dave yn prynnu potel o wisgi, hynny yw, ai gofyn i Dave fynd mewn i brynnu potel er mwyn y rhaglen a wnaethpwyd ac os felly ydy gofyn i rhywun sy'n amlwg a phroblem alcohol wneud hynny yn syniad call a moesol hyd yn oed? Roedd y defnydd o ganeuon Datblygu yn glyfar serch hynny. Sai'n nabod Dave na Ree felly sdim lle da fi weud mwy, ond dyna beth gododd yn fy meddwl i o weld y rhaglen.
Me meus nemed naou miz da roul va yaounkiz...