Seisnigrwydd Radio Cymru'n codi gwrychyn!

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Seisnigrwydd Radio Cymru'n codi gwrychyn!

Postiogan Y Teithiwr Rhadlon » Gwe 26 Meh 2009 11:25 am

Llythyr agored i'r wasg :

26/06/2009

Annwyl Olygydd,

Hoffwn, drwy eich tudalennau, longyfarch Radio Cymru ar eu gwasanaeth. Maent yn wych am arbed pen fy mys, ac arbed traul ar fotymau'r radio yn y car. Gan fy mod yn teithio’n gyson, rwy’n dibynnu’n helaeth ar y radio yn y car am adloniant yn ystod y daith.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar, fodd bynnag, dwi wedi darganfod nad oes rhaid i mi ymestyn at y radio i bwyso botwm arall o gwbl ar hyd y daith. Does dim rhaid i mi bwyso botwm Radio One i gael y storiau ‘juicy’ sydd yn y papurau Prydeinig, na’r ‘gossip’ am ‘celebs’ Eingl-Americanaidd - dwi’n eu cael ar Radio Cymru! Does dim rhaid i mi chwaith bwyso botwm Radio Two, dwi’n cael 10cc, Manfred Mann, Ivy League, Lionel Richie, The Everly Brothers a mwy, i gyd ar Radio Cymru! Does dim rhaid i mi newid i’r ‘Chart Show’ i gael y Top Ten Prydeinig chwaith - dwi’n eu cael ar Radio Cymru! Yn ddiweddar cefais wybod fod ‘He Ain’t Heavy’ wedi ei recordio union 40 mlynedd yn ôl, a mwy na hynny, mai Elton John oedd yn chwarae’r piano ar y recordiad (rhaglen Eleri Siôn a Daf Du). Yn dilyn trafodaeth a oedd bron yn ddifyr, bu bron i mi glywed hefyd faint oedd oed Elton John 40 mlynedd yn ôl, ond roedd rhaid i mi ddiffodd y radio a mynd allan o’r car!!

Yn hwyrach yn y dydd, ar ôl dod ataf fy hun, cefais wybod fod ‘I’m Alive’ gan The Hollies yn rhif un yn yr union fis yn 1965 - pwy fasa’n meddwl - a byddai David Paich o Toto wedi cael ei ben-blwydd y diwrnod hwnnw, cofiwch, petai yn fyw!! Ar ben yr holl wybodaeth hyn, dwi’n cael clywed y caneuon hefyd - eto heb ymestyn modfedd at fotwm Radio Two, Radio Wales, na Radio One. Ac wedyn pan rwyf eisiau gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg gallaf roi’r CD ymlaen! Mae fy mys canol i mor falch o’n gorsaf genedlaethol!

Yn gywir,

Y Teithiwr Rhadlon

http://yteithiwrrhadlon.blogspot.com/

Cysylltwch gyda'r Teithiwr Rhadlon i roi eich barn ar Radio Cymru - ydych chi'n hapus gyda'r gwasanaeth presennol? yteithiwrrhadlon@hotmail.co.uk
Y Teithiwr Rhadlon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Gwe 26 Meh 2009 11:01 am


Re: Seisnigrwydd Radio Cymru'n codi gwrychyn!

Postiogan Kez » Gwe 26 Meh 2009 11:49 pm

Jawch ariod! Own i'n meddwl bo Radio Cymru yn llawn Welsh shit - bydd raid ifi ddychra gryndo arno fe nawr, ma'n swno'n ddifyr :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Seisnigrwydd Radio Cymru'n codi gwrychyn!

Postiogan sian » Llun 07 Medi 2009 6:01 pm

Er tegwch â Radio Cymru, dw i wedi clywed dwy raglen ardderchog heddi - Yma Wyf Innau i Fod - mae hon yn gyfres ddifyr - a Gwerth fy Myd - digwydd clywed hon wnes i ac fe ges i dipyn o drafferth chwilio am wybodaeth amdani ar wefan Radio Cymru.
Huw Jones oedd yn holi Guto Harri. Difyr iawn! Rhywun yn gwybod ai hon oedd y gynta yn y gyfres?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Seisnigrwydd Radio Cymru'n codi gwrychyn!

Postiogan sian » Mer 09 Medi 2009 8:54 pm

Ac un arall!

Llythyr at .... (?) heno
Mab yn 'sgrifennu' llythyr at ei dad sy'n dioddef o dementia.
Da iawn, wir.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Seisnigrwydd Radio Cymru'n codi gwrychyn!

Postiogan Duw » Mer 09 Medi 2009 10:52 pm

Mae'r pethe 'ma digon teg, er tiwno mewn i wrando i gerddoriaeth 'dw i. Dwi'n diflasu gyda RC. Y diffyg dewis sy'n fy ngwylltio i. Dwi ddim ishe clywed cwpwl o hen ffogis yn myn mlan am adeiladu wal ar ddiwedd yr ardd ne mynd am dro dros ryw fryn yng nghanol unman. Mae'n ddigon i wneud i berson sgrechen.

Mae'r ffaith eu bod yn ware cerddoriaeth Saesneg yn chwerthinllyd. Bob yn ail - blydi plentynnaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Seisnigrwydd Radio Cymru'n codi gwrychyn!

Postiogan sian » Sad 12 Medi 2009 9:39 am

Mae gan Eleri a Daf 985 o gefnogwyr ar Facebook. :ofn: :ofn:

Rhaid bod nhw'n neud rhywbeth yn iawn
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Seisnigrwydd Radio Cymru'n codi gwrychyn!

Postiogan Duw » Sad 12 Medi 2009 4:12 pm

sian a ddywedodd:Mae gan Eleri a Daf 985 o gefnogwyr ar Facebook. :ofn: :ofn:

Rhaid bod nhw'n neud rhywbeth yn iawn


Dwi'm gwbod os ydy hwnna'n peth da ai beidio. Mae gen i gyfrif ar Facebollocks, er heb fod arno ers dro oherwydd yr yter bwlshit weles i 'na. Dwi'n nabod cydweithwyr sydd â 400+ o ffrindie arno. Trist.

Pam nid C2 24 awr? Radio Cymru 1 (cerddoriaeth Cymraeg) a Radio Cymru 2 (fel Radio 4). Perffeth - bydde'r hen ffogis yn gallu gwrando i Dai Saunders Jones ac Emrys McIntyre Hughes yn trafod y llanw yn Harlech heb orfod godde pethe pobol ifanc. A tra fy mod yma, galle Jownsee bygran off i Radio Cymru 2 hefyd, dwi mo'yn tagu'r clown bob tro dwi'n clywed ei lais ffals. Blydi pais.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron