Mae derwyddon ffilm Pictiwrs wedi bod yn palu am hen greiriau ac wedi atgyfodi trysor o ffilm ar gyfer dychryn cynulleidfaoedd Cymraeg o'r newydd.
O'r Ddaear Hen yw un o'r ffilmiau arswyd gyntaf i gael ei gynhyrchu yn y Gymraeg, ac mi roddodd hunllefau i gannoedd o blant wedi iddi gael ei dangos mewn ysgolion!
Dyma gyfle i un ai ail-fyw eich hunllefau a rhoi'r ysbryd yna i'w wely, neu ddychryn cenhedlaeth newydd!
Gallwch chi weld rhagor o wybodaeth am y ffilm yn y gofnod arni ar wefan Yn Y Ffrâm.
Byddwn hefyd yn dangos llu o ffilmiau byr newydd gan gynnwys gwaith gan fyfyrwyr Aberystwyth, DVD Pictiwrs / Tu Chwith o 2008, gwaith gan blant project Sbarc!, a ffilm gan gwmni drama o Gerrig y Drudion.
Rhowch yr amseroedd yn eich dyddiadur Steddfodol, bachwch fyrgyr a pheint, a dewch draw i joio ffilmiau dros ginio.
Bydd manylion llawn y rhaglen i ddilyn yn nes mlaen yn yr wythnos...