Clasur arswyd Cymraeg i ddangos eto ym Mhictiwrs y Steddfod

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Clasur arswyd Cymraeg i ddangos eto ym Mhictiwrs y Steddfod

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 28 Gor 2009 8:33 am

Mae derwyddon ffilm Pictiwrs wedi bod yn palu am hen greiriau ac wedi atgyfodi trysor o ffilm ar gyfer dychryn cynulleidfaoedd Cymraeg o'r newydd.

O'r Ddaear Hen yw un o'r ffilmiau arswyd gyntaf i gael ei gynhyrchu yn y Gymraeg, ac mi roddodd hunllefau i gannoedd o blant wedi iddi gael ei dangos mewn ysgolion!

Dyma gyfle i un ai ail-fyw eich hunllefau a rhoi'r ysbryd yna i'w wely, neu ddychryn cenhedlaeth newydd!

Gallwch chi weld rhagor o wybodaeth am y ffilm yn y gofnod arni ar wefan Yn Y Ffrâm.

Byddwn hefyd yn dangos llu o ffilmiau byr newydd gan gynnwys gwaith gan fyfyrwyr Aberystwyth, DVD Pictiwrs / Tu Chwith o 2008, gwaith gan blant project Sbarc!, a ffilm gan gwmni drama o Gerrig y Drudion.

Rhowch yr amseroedd yn eich dyddiadur Steddfodol, bachwch fyrgyr a pheint, a dewch draw i joio ffilmiau dros ginio.

Delwedd

Bydd manylion llawn y rhaglen i ddilyn yn nes mlaen yn yr wythnos...
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai