newydd fynd i'r sinema i weld "ponyo", ffilm ddweddara gan miyazaki hayo, y boi wnath totoro, laputa: castle in the sky (y hi o'dd y ffilm ro'n nhw'n arfer (? neu yn dal i) chwarae yn y siop nwdls ym mangor trw'r amser!), nausicaa, spirited away, princess mononoke, kiki's delivery service ac ati.
smo hi'n agor ym mhrydain tan flwyddyn nesa, ond dyma chi air o gyngor mlan llaw: mae'n wych. ddim cystal a^ totoro, chwarae teg, ond pring y ffilmiau sydd yn, wrth gwrs. ond gwych o ffilm serch hyn'na, ac yn hollol addas i blant bach mynten i. gwnath hi f'atgoffa i o panda ko-panda (1971? 1972?), os oes rhwun yn gyfarwydd a^ honno, clasur arall gan miyazaki a'i griw i blant bach.
gwerth ei gweld - na own i'n trio'i weud.