Heno ar S4C mae na raglen arbennig o Nodyn gyda bandiau yn canu eu fersiynau nhw o ganeuon pobol eraill.
Cyfle i weld:
Yucatan yn canu clasur Meic Stevens, Dim Ond Cysgodion
Lisa Pedrick yn canu CWmwl 9 gan Gwacamoli
Angharad Brinn yn canu un o ffefrynau Chiz - Nos Sul a Baglan Bay
A Plant Duw yn canu eu cyfyr gwych nhw o Yn y Bore gan Ryan a Ronnie.
Bydd Elin Fflur hefyd yn sgwrsio efo'r person sydd wedi cael ei gyfro mwyaf yng Nghymru - Meic Stevens.
Os fethoch chi Derwyddon Dr Gonzo, Tebot Piws, Gai Toms a Dafydd Iwan yn y Steddfod - ewch yma! Ewch!
http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtm ... =352419605