Hogyn o Rachub a ddywedodd:'sgen i'm mynadd cwyno.
fel'a dwi'n teimlo 'fyd, harpio 'mlaen am yr un blydi peth. ond mae o'n annerbyniol dydi!? be' 'nath weindio fi i fyny'n fwy na dim oedd y busnas siarad am y sais o'i flaen o, a wedyn pan holodd o be oedd hi'n ddeud - "you better learn some welsh if you're going to stay around here" pam? fel bod o'n gallu deall be oedd pobol yn ddeud amdano fo?! achos dyna'r unig amsar oedd y gymraeg yn cael 'i defnyddio. syniadaeth saeson am y cymry. a'r geirios ar y gacan - "are all you welsh thieves?" ffocoff. heb soooooon am yr acenion. alla' i'm hyd yn oed geirio pa mor flin dwi am hynny. fel a nodwyd uchod. ac eve fflipin myles eto'n cynrychioli cymru, gogledd cymru. gret.
a, gyda llaw, o ran y ddrama, oedd y plot y peth mwya' predictable dwi rioed 'di dwad ar 'i thraws. dwi jyst yn gobeithio i'r nef mai nid ryw beilot ar gyfer cyfres oedd hi. erchyllbeth.