Ray Diota a ddywedodd:
sai'n credu hyn am eiliad...
Wir - mae gen i lun yn fy mhen o hen ddyn mewn cap gwau rhacs - ac, o bosib, menyw a sanau rhychiog - o'r enw Norah Batty (?) ond o ran eu hacen, sda fi ddim syniad.
Welais i erioed mo'r un lle mae David Jason a boi tal yn gwerthu pethau chwaith.
A tan Framed neithiwr do'n i ddim wedi eiste lawr i watsho'r teledu ers misoedd - os nad blynyddoedd! Falle bod hynny'n un rheswm pam wnes i fwynhau gymaint - luxury!
(Fydda i'n edrych ar y teledu wrth smwddio ar nos Sul - ac yn cael newyddion 7.30 neu beth bynnag sydd mlaen wrth gael swper).
Pan ti'n byw yn Nhrefor, ti ddim angen teledu!