gan ger4llt » Llun 28 Medi 2009 10:43 pm
Rhaid i mi gytuno fo chdi'n fan'na - ma ysbryd y rhaglen wedi diflannu yn gyfan gwbl, o be welwn i. Dwi'n cofio o weld agoriad y rhaglen cynta' o'r gyfres newydd ma, ac o'dd hi'n hawdd gweld nag oedd hi am fod yn dda o'r eiliad cyntaf - awyrgylch oeriadd yn y stiwdio, dim ond Rhydian yn siarad un-i-un â'r camera, a dim o'r hwyl oedd i'w gael ar nos Wener. Ma' pawb yn y stiwdio fel 'sa gennyn nhw ddim mynedd o gwbl gweithio ar y rhaglen - ac ma rhei o'r cyflwynwyr newydd yn wirioneddol yn mynd dan y 'nghroen i, un neu ddau (ddwy) yn ysgafn a hwylus, ond wedyn rhei erill yn gweiddi gormod, a rhei o'r acenion lleol yn boenus i'w clywed...tanjagchiiin
Hefyd, sut ddiawl ma cadw attention span gwylwyr ifanc (y gynulleidfa darged, ia??) am DDWY awr solet?! Dwi'n meddwl mai'r unig eitem sy'n cal gwariant da ar y rhaglen di'r eitema' ar Ems y beiciwr mynydd 'na - ma hwnna o leia' yn ddiddorol a di rhoi meddwl mewn i'r siotia a'r cyfweliada aballu. Dwi wir yn teimlo biti dros rywun fel Rhydian sy'n gorfod teithio yr holl ffor' i G'narfon i weithio ar y fath embaras. Dwi'n cael yr argraff fod s4c 'di gwthio uned5 i'r neilltu i'r slot waetha posib, yn fy marn bach dila i. Trist iawn, feri sad.