Blodau

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Blodau

Postiogan ffwcio dy fam » Mer 16 Rhag 2009 3:47 pm

cytuno fo pwy bynnag sy ar dop y dudalen llwyth o wanc yn y marn i. dwi di bod yn Llandudno a dydio'm byd tebyg i huna.idealistic iawn yn y marn i.dwi'n nabod ac yn hoff o'r ddynas sy di sgwenu'r rybish ma.mai'n ddynas iawn de...mets da fo'i meibion hi ond ffocinel mana shit...a mana ffocin total shit does...mashwr ddudai wrthi hi riwbryd pan dwi di meddwi. :)
ffwcio dy fam
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Maw 15 Rhag 2009 5:17 pm

Re: Blodau

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Mer 16 Rhag 2009 8:09 pm

dwi'm yn meddwl mai bwriad y gyfres oedd adlewyrchu bywyd fel y mae o yn llandudno. tydi cyfresi llwyddiannus fel 'west wing', 'e.r.', a 'house' ac yn y blaen ddim yn adlewyrchu bywyd fel ag y mae o mewn ysbytai nag yn y ty gwyn yn deg iawn, ond 'dyn nhw'm yn honni gneud achos ffuglen 'di o. dwi'm yn gwbod be' di o am gymry sy'n disgwl i be' sy' ar y sgrin fod yn union fel mae o mewn bywyd go iawn. diflas iawn fasa'i tasa pob rhaglen yn union fel bywyd go iawn myn uffar. rhydd i bawb ei farn, ond o'n i'n meddwl bod yr actio'n dda, y straeon yn cynnal, a'r cwbwl yn creu cyfres dda. gwell na unrhyw gyfres arall sy 'di bod ar s4c ers ioncs - jyst i enwi cowbois ac injans, caerdydd, teulu, mostyn fflint, ac yn y blaen ac yn y blaen...
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: Blodau

Postiogan bed123 » Sad 19 Rhag 2009 5:48 pm

Rydw i wedi newid fyn meddwl am Blodau, or blog uchod. Mae o wedi tyfu arnai. Rhaglen olaf yn dda iawn.
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: Blodau

Postiogan Krankski coch » Llun 21 Rhag 2009 3:10 am

Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:dwi'm yn meddwl mai bwriad y gyfres oedd adlewyrchu bywyd fel y mae o yn llandudno. tydi cyfresi llwyddiannus fel 'west wing', 'e.r.', a 'house' ac yn y blaen ddim yn adlewyrchu bywyd fel ag y mae o mewn ysbytai nag yn y ty gwyn yn deg iawn, ond 'dyn nhw'm yn honni gneud achos ffuglen 'di o. dwi'm yn gwbod be' di o am gymry sy'n disgwl i be' sy' ar y sgrin fod yn union fel mae o mewn bywyd go iawn. diflas iawn fasa'i tasa pob rhaglen yn union fel bywyd go iawn myn uffar..

pwynt teg TG. Er hyn, dwi dal yn ffeindio'r gyfres yn ddiflas iawn. Dwi'n meddwl fod y script yn wan, er bod yr actorion yn trio'i gora efo hi. A ma'r gerddoriaeth accordion a la Amelie yn crinji uffernol fyd.

Pam gawn ni gyfres ddrama ddiddorol, heriol ar sbrec cont?! Y peth dwytha nath rili ysbrydoli fi odd 'A470'. odd hwna'n gfet
Rhithffurf defnyddiwr
Krankski coch
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 201
Ymunwyd: Sul 13 Maw 2005 6:36 pm
Lleoliad: coedwig

Nôl

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron