Blodau

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Blodau

Postiogan pethemowrcoch » Gwe 13 Tach 2009 6:25 pm

Unrhyw un arall wedi gweld 'Blodau'? Sgript wan iawn iawn ac actio (heb law am Rhian Blythe) dychrynllyd. Truenu.
pethemowrcoch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Maw 22 Ebr 2008 11:40 am

Re: Blodau

Postiogan Gowpi » Sul 15 Tach 2009 2:50 pm

Nes i ei fwynhau ar y cyfan, ond wy'n credu mai un o'r prif resymau odd y lliwiau a'r golygfeydd a'r ymdeimlad ffilm 'Amelie' o'n i'n meddwl odd yn perthyn iddo, a hefyd gan nad o'n i'n gyfarwydd a llawer o'r actorion - newid dife...?!
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Re: Blodau

Postiogan bed123 » Llun 30 Tach 2009 9:47 pm

Cytuno a pethemowrcoch, roeddwn yn edrych ymlaen i Blodau ond siomedig. Jesd yn ddiflas, a sgwennu sal.
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: Blodau

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Mer 02 Rhag 2009 9:31 pm

'da chi'n siriys? ma'r gyfres yn well na dim byd arall sy 'di bod ar sbrec ers blynyddoedd... ers talcen caled, 'swn i'n deud. ac ma'r cast i gyd yn gry' ofnadwy. cy laen ia, rhowch jans i rwbath. neuthoch chi weld pennod nos sul? o'dd hi'n ofnadwy o dda o'n i'n meddwl. iasu grist ma' isho mynadd. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: Blodau

Postiogan cwrwgl » Gwe 04 Rhag 2009 9:37 pm

Mae o'n edrych yn lyfli ac mae Llandudno MOR photogenic... ond (o diar)... mae na rwabth ar goll ond fedrai'm cweit rhoi fy mys ar be yn union. All style no substance ella? (sori). Na i dal i'w wylio fo am y gwaith camera / y dillad ayb ond dwi byth yn hollol satisfied efo fo erbyn diwedd y rhifyn.

Mae'r acenion yn bygio fi hefyd. Er fod yr actio yn ok, dim ond un cymeriad sgen unrhywbeth yn agos i acen Llandudno (y boi jilted sy'n mynd i copio off efo Lili nesa). Oni nath Meic Povey rhyw sylwadau am y broblem acenion ymysg actorion Cymraeg yn ddiweddar? Mi aeth bobl yma ar y maes yn nyts dros y broblem acenion efo'r ddrama saesneg yna oedd i fod yn Stiniog oedd ar BBC yn ddiweddar ond does neb i weld yn cwyno am gael acenion yn hollol anghywir mewn dramau yn Gymraeg. Mae angen "language coaches" ar S4C hefyd.
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm

Re: Blodau

Postiogan Orcloth » Sad 05 Rhag 2009 10:45 am

Dwi'n eitha mwynhau'r ddrama hefyd, a fel ti'n ddeud, mae Llandudno'n le braf..... a'r ty pren lle mae'r boi hefo mwstash "iffy"'n byw - ar lan y Fenai yn Porthaethwy mae hwnnw!
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Blodau

Postiogan Rhys » Maw 08 Rhag 2009 2:21 pm

cwrwgl a ddywedodd: Mi aeth bobl yma ar y maes yn nyts dros y broblem acenion efo'r ddrama saesneg yna oedd i fod yn Stiniog oedd ar BBC yn ddiweddar ond does neb i weld yn cwyno am gael acenion yn hollol anghywir mewn dramau yn Gymraeg. Mae angen "language coaches" ar S4C hefyd.


Mae'r holl acenion 'ochrau caernarfon' 'ma ar y rhaglen yn bygio fyd (bron iawn a'r actio uffernol). Roeddwn i'n mynd i roi'r benefit of the doubt i'r rhaglen gan nad oes yn unrhyw gyfeiriad i'r ffaith bod hi wedi ei lleoli yn Llandudno o gwbl - gall fod yn dref gal mor Cymreig ffuglenol - ond dw i'n siwr bod o'n dweud 'Llandudno' ar ochr fan y siop flodau.

Yr unig gymeriadau dw in licio ydy Mac a Wyn - efallai dylid gwneud spin-off o'r gyfres gyda'r ddau yma fel prif gymreiadau, rhyw fath o Men behaving Badly Cymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Blodau

Postiogan cwrwgl » Llun 14 Rhag 2009 11:30 am

"Small Island" ar BBC 1 wedi ennill y gem gwylio dros y ddau nos Sul dwetha i fi dwi'n ofni - anhygoel.
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm

Re: Blodau

Postiogan Macsen » Llun 14 Rhag 2009 1:34 pm

Wnes i joio'r gyfres dweud y gwir. A fe wnaethon ni daflu popeth a sinc y gegin at yr episod ola' na chwarae teg. Ro'n i'n disgwyl i tidal wave daro Llandudno yn y diwedd, dyna'r unig plot twist oedd ar ol.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Blodau - Cyfres S4C

Postiogan JVD33 » Mer 16 Rhag 2009 12:46 pm

Dodd dim byd ar y teledu neithiwr felly penderfynais i wylio pennod o'r gyfres "Blodau". Sai'n gwybod beth dwi'n meddwl amdani. Mae'r arddull yn fy atgoffa fi o'r ffilm Ffrenging Le Fabuleux Destin d'Amelie Poulain - mae'r gerddoriaeth, goleuo, shots camera a'r llinellau stori yn debyg iddi rhywsut.

Oes unrhwy un arall wedi gweld y gyfres 'ma a beth o'ch chi'n meddwl amdani?
JVD33
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Mer 16 Rhag 2009 12:38 pm
Lleoliad: Abertawe

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron