Tydwi ddim wedi bod yn dilyn hwn i ddweud y gwir, ond o'n i'n meddwl y byswn i'n tiwnio i mewn neithiwr, jest er mwyn gweld be oedd yn mynd ymlaen, a pham oedd pawb yn gwneud gymaint o ffys am y peth.
Yn ol fy merch - oedd yn ei wylio - roedd un o'r hogia wedi bod yn canu (roedd hyn tua 8 o'r gloch). Felly penderfynais wylio'r hogyn arall (yr un nath ennill yn y diwedd). Roedd o'n canu fy nghan ffefryn i, sef "Don't Stop Believin'" gan Journey, a mai god mi nath o fwrdro'r gan go iawn! Y cyfar gwaetha' glywais i rioed jest iawn! Ac ar ol iddo fo fwrdro 'nghan i, mi ddudodd un o'r beirniaid y dylai ddod a'r gan allan fel sengl!!!! O mai god, na, medda fi - bysa Journey byth, nefar yn gadael i ti neud hynna, boi! (A fyswn i'n deud nad oedd o'n medru canu'n dda, chwaith!). Rybish mwya welais i ar y teli ers stalwm, onest tw god!