Nes i watsio'r 'trafodaeth' neithiwr a wedd e'n simoedig tu hwnt. Wedd Hywel Williams 'na, ond yn yr hanner war cynta nath e fawr o gyfraniad er bod nifer o'r gwesteion yn gwneud sylwadau oedd yn haeddi ymateb ganddo. Pwynt y gyfres wedd i brofoco, ond ar ol profoco wedd Hywel druan yn jest ishte 'na yn y stwidio fel enuch mewn harem. A gyda'r enuch yn dda i ddim nath y rhaglen troi mewn i 'Angahrad Mair & Cymru Hywel Williams'. Cystal i Hywel ddim fod 'na. Beth oedd y broblem - smo fe'n galler siarad Cymraeg 'off the cuff'?
Ar ol hanner awr nes i roi-lan a throi i'r Bib. Falle nath pethe mynd yn fwy bywiog yn yr hanner awr ola', ond colles i amynedd. Wedd y peth yn teimlo mor 'controlled' a theimliais i wedd dim gobaith i'r peth twymo lan a chael trafodaeth difyr, bywiog. Falle rhan o'r broblem oedd bod y peth wedi cael ei recordio o flaen llaw. Mae un o'r cyfrannwyr wedi 'tweeto' i ddweud bo nhw'n siomedig gyda'r ffordd cafodd ei cyfranniadau ei olygu.
Hefyd dwi'n teimlo pan mae rhaglen fel hyn yn cael ei or-olygu mae fe'n ergyd farwol, achos mae'r tim cynhyrchu yn poeni mwy am y 'shots' & gwneud y rhaglen i edrych yn dda yn weledol a dim poeni shwd gymaint am y geiriau. Ond mewn rhaglen trafodaeth beth sy'n cael ei ddweud sy'n pwysig. Ond weithie mae teledu yn anghofio hwnna pan mae nhw'n rhoi'r pwyslais ar rheolaeth.
A wedd rhaglen neithiwr yn teimlo fel bod e wedi cael ei rheoli i beidio pechu neb - yr hen bechod Cymreig.
Synnwyr cyffredin falle, ond teledu blydi diflas.