'Cymru Hywel Williams'

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

'Cymru Hywel Williams'

Postiogan Cedwyn » Gwe 18 Rhag 2009 8:46 pm

Nes i watsio'r 'trafodaeth' neithiwr a wedd e'n simoedig tu hwnt. Wedd Hywel Williams 'na, ond yn yr hanner war cynta nath e fawr o gyfraniad er bod nifer o'r gwesteion yn gwneud sylwadau oedd yn haeddi ymateb ganddo. Pwynt y gyfres wedd i brofoco, ond ar ol profoco wedd Hywel druan yn jest ishte 'na yn y stwidio fel enuch mewn harem. A gyda'r enuch yn dda i ddim nath y rhaglen troi mewn i 'Angahrad Mair & Cymru Hywel Williams'. Cystal i Hywel ddim fod 'na. Beth oedd y broblem - smo fe'n galler siarad Cymraeg 'off the cuff'?

Ar ol hanner awr nes i roi-lan a throi i'r Bib. Falle nath pethe mynd yn fwy bywiog yn yr hanner awr ola', ond colles i amynedd. Wedd y peth yn teimlo mor 'controlled' a theimliais i wedd dim gobaith i'r peth twymo lan a chael trafodaeth difyr, bywiog. Falle rhan o'r broblem oedd bod y peth wedi cael ei recordio o flaen llaw. Mae un o'r cyfrannwyr wedi 'tweeto' i ddweud bo nhw'n siomedig gyda'r ffordd cafodd ei cyfranniadau ei olygu.

Hefyd dwi'n teimlo pan mae rhaglen fel hyn yn cael ei or-olygu mae fe'n ergyd farwol, achos mae'r tim cynhyrchu yn poeni mwy am y 'shots' & gwneud y rhaglen i edrych yn dda yn weledol a dim poeni shwd gymaint am y geiriau. Ond mewn rhaglen trafodaeth beth sy'n cael ei ddweud sy'n pwysig. Ond weithie mae teledu yn anghofio hwnna pan mae nhw'n rhoi'r pwyslais ar rheolaeth.

A wedd rhaglen neithiwr yn teimlo fel bod e wedi cael ei rheoli i beidio pechu neb - yr hen bechod Cymreig.

Synnwyr cyffredin falle, ond teledu blydi diflas.
Cedwyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Gwe 21 Awst 2009 10:20 pm

Re: 'Cymru Hywel Williams'

Postiogan Lals » Llun 21 Rhag 2009 11:50 am

Cytuno'n llwyr. Yr unig beth ddywedodd Hywel Williams ar ddiwedd y rhaglen bron oedd "dw i'n falch bod cymaint o bobl yn cytuno a fi" - ond nid dyna oedd pwynt y rhaglen. Ro'n i'n disgwyl iddo fe gael amser caled fel wnaeth Nick Griffin ar Question Time ond roedd y peth yn hollol sidet.
"ti'n gwybod be i neud pan dwisio mwytha"
Lals
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 237
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 9:27 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: 'Cymru Hywel Williams'

Postiogan Gorwel Roberts » Maw 22 Rhag 2009 9:50 am

Lals a ddywedodd:Cytuno'n llwyr. Yr unig beth ddywedodd Hywel Williams ar ddiwedd y rhaglen bron oedd "dw i'n falch bod cymaint o bobl yn cytuno a fi" - ond nid dyna oedd pwynt y rhaglen. Ro'n i'n disgwyl iddo fe gael amser caled fel wnaeth Nick Griffin ar Question Time ond roedd y peth yn hollol sidet.


Dal arni rwan, tydi hi ddim yn deg cymharu HW efo Griffin - efallai fod gan Hywel hanes dodgy efo John Redwood ac ati ond chwarae teg. Roedd yna ddigon o synnwyr yn lot o'r pethau roedd Hywel yn eu dweud - a lle doedd dim cymaint o synnwyr o leiaf roedd o'n procio ac yn trio ennyn ymateb a gwneud i ni feddwl.

Yr Eisteddfod er enghraifft - 'groundhog day Cymraeg', brilliant! - dan ni'n ein twyllo ein hunain os dan ni'n meddwl bod yr Eisteddfod yn draddodiad hynafol. Fel bron pob rhan o'n diwylliant ni - wedi ei chreu mae'r steddfod - ac ella ei bod hi'n bryd ei hail-greu hi?
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: 'Cymru Hywel Williams'

Postiogan Lals » Maw 22 Rhag 2009 10:12 am

Dw i ddim yn cymharu Hywel Williams gyda Nick Griffin o ran ei wleidyddiaeth, wedi disgwyl gwrthdaro, ateb yn ol, a chega bywiog yn y stiwdio fel a gafwyd yn y rhaglen honno o Question Time ro'n i. Ro'n i wedi disgwyl clywed e'n cyfiawnhau ei syniadau ond roedd y rhaglen yn hollol fflat.
"ti'n gwybod be i neud pan dwisio mwytha"
Lals
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 237
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 9:27 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: 'Cymru Hywel Williams'

Postiogan Gorwel Roberts » Maw 22 Rhag 2009 4:13 pm

Dwi'n cytuno. braidd yn siomedig oedd hi
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron