Y biti yw fod mae nifer o bobl yn taro golwg ar S4C ac yn gwneud y cysylltiad rhwng trafferthion S4C a'i fod yn darlledu drwy'r iaith Gymraeg. Ond dim y ffaith mai drwy'r Gymraeg mae'r sianel yn gweithredu yw'r broblem, yn hytrach fod ei amserlen (heblaw am un neu ddau beth o nôd) yn llawn rhaglenni cachu does neb eisiau eu gwylio!
Mae'r sianel wedi bod yn piso arian i lawr y draen ers tua degawd nawr, dwi wedi gweithio i nifer o gwmniau allannol yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf ar ran S4C, a dwi wedi gweld llaw-gyntaf sut y mae'n mynd drwy eu dwylo fel dwr. Dwi'n dal i weithio i'r cyfryngau hyd heddiw ac yn dod ar draws nifer o'r cliques o hyd, does fawr ddim wedi newid. Mae'r rhan fwyaf o'r cyfryngis yn sicr eu bod yn creu perlau artistic o raglenni, a phan yn cyfuno gyda rhai eraill o'r run feddylfryd, yn dod i fyny gyda'r syniadau gwaethaf posib am raglenni...ac oherwydd pwy ydyn nhw, mae'r ffyliaid yn S4C yn taflu arian atynt.
Er fod BBC Cymru yn dibynnu tipyn ar gomisiynnu rhaglenni teledu a radio hefyd, mae ganddynt broses gomisiynnu trylwyr iawn, ac os oes yno raglen gwael yn cael ei darlledu mae ymateb y cyhoedd yn cael ei ystyried o ddifri bob tro cyn ei ail-gomisiynnu. Ond does y fath beth yn S4C, dros y blynyddoedd dwi wedi clywed straeon hunllefus am eu cyfarfodydd comisiynnu, o ysgrifennu siec o filoedd am gyfres heb hyd yn oed darllen y briff a'i gomisiynnu ar sail cryfder y teitl yn unig, i benderfynnu talu allan i gwmni cynhyrchu adnabyddus jest i arbed gorfod cael cyfarfod!
Mae'r sicrwydd ariannol mae S4C wedi ei fwynhau wedi creu awyrgylch o ymfodlondeb a diogrwydd ers canol y 90'au. Does dim creadigrwydd bellach, gyda'r run hen raglenni yn cael eu ail-gylchu drosodd a throsodd, mae'r holl beth yn 'stagnant', yn drewi o agweddau 'jobs for the boys' a'r teimlad fod nad oes neb yn trio'n rhy galed...gyn belled fod pawb yn cael eu siar o'r arian, dim ots be mae nhw'n ei gynhyrchu. Mae nepotistiaeth yn bla drwy'r gorfforaeth, a mae'n anodd uffernol (os nad amhosib) i waed newydd dorri drwodd...heb enwi neb, dwi'n cofio'r cwestiwn cyntaf a ofynnwyd i mi mewn 'meet & greet' yn 1997, daeth un o benaethiaid S4C atai, yn glên i gyd a holi "mab pwy ti felly?". Pan nes i egluro mai weldar oedd fy nhad a doedd gen i'r run cysylltiad teuluol i'r cyfryngau, mi ddywedodd "O! Esgusodwch fi" crychodd ei drwyn, gwneud gwyneb hull a cherdded ffwrdd...fasa Duw'n lladd i fory, dim gair o gelwydd! Mae 'na un neu dda o hogia iawn yn gweithio ym myd teledu Cymraeg, ond pobl fel yr uchod yw'r rhan helaeth o'r gweddill mae arnai ofn.
Mae o'n fy ngwylltio i does dim yn newid pan y fuasai newidiadau bach hawdd yn gwneud byd o wahaniaeth, mae taro cipolwg ar yr amserlen yn profi hyn, does dim wedi newid ers degawd! Mae nos Sadwrn yn llawn rygbi yn ystod yr oriau pwysicaf, gyda awran o Noson Lawen rhyngddynt a cyngerdd Eisteddfodol hên ar eu hôl - pwy ddiawl sydd yn mynd i wylio hynny prime time nos Sad. Swn i'n meddwl fod y rhan helaeth o gynulleidfa'r rygbi allan yn y tafarn beth bynnag. Dwi hefyd yn sylwi eu bod wedi ail-ddechrau dangos Jacpot eto bob amser te - dim ail-ddyfodi'r gyfres, ond ail-ddangos y gyfres wreiddiol o'r 90'au cynnar?!
Heblaw am chwaraeon ac un neu ddau ddrama fel Caerdydd, tydy S4C bellach yn cynhyrchu dim o werth i dargedu'r oedrannau 20 - 45 a mae hynny'n warth. Mae angen gweddnewid ar strategaeth a strwythur S4C o'r top i lawr, ond yn anffodus pwy sydd yn mynd i fod ddigon dewr i dorchi llewis cyn iddi fod yn rhy hwyr?