Dyma cyfweliad mis Rhagfyr BAFTA yn Llundain 'da Russell T Davies & Julie Gardner wedi arwain gan y fendigedig Caitlin Moran: http://tinyurl.com/y85mz3d
15.10 i mewn mae Russell yn cael rant yn erbyn y Cynulliad ('Local politicians') oherwydd adroddiad am Teledu, Drama & Diwylliant yng Nghymru gan 'some bloody woman' i'r Cynulliad nath labeli Dr Who fel 'Badge of Shame for Wales' oherwydd 'doedd y gyfres ddim yn ddigon Gymreig. Mae'r cynulleidfa yn bloeddio chwerthin ar ymateb 'twym' Russell i dwpdra yr adroddiad.
Dwi 'di trial 'googlo' am wybodaeth ynglyn a'r adroddiad 'ma ond smoi 'di cael unryw lwc - oes rywun ma's 'na yn gwbod mwy?
Trueni os mae'n wir oherwydd mae'n roi'r argraff bod Cymru'n lle eitha' plwyfol a mewnblyg - yn fy marn i de!!