Welsoch chi hwn ar y teledu cyn y Nadolig wy'n credu? Newydd ei weld ar y we yn ddiweddar, briliant! O'n i'n meddwl bod y cyfuniad o'r doniol a'r difrif wedi gweithio'n arbennig ac odd nifer o actorion gorau Cymru ynddo.
Mae 'na grwp weplyfr yn galw ar ei wneud yn gyfres deledu... Fydden i yn bendant yn edrych arno achos fe wnes i glosio at nifer o'r cymeriadau a ffeindio'r 'cameos' yn ddoniol dychrynllyd!
Da iawn Ruth Jones a Catrin Dafydd!