Cynllun hyfforddi newydd gan CYFLE

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cynllun hyfforddi newydd gan CYFLE

Postiogan RIB » Llun 08 Chw 2010 1:14 pm

Hysbys gan Cyfle isod, meddwl falle fyddai'r cwrs o ddiddordeb i rai pobl sy'n darllen y seiat yma.

RECRIWTIO NAWR!
Cynllun Cynhyrchu Aml-Blatfform i Grewyr Teledu

Hyfforddiant ymarferol a dosbarthiadau meistr gan bobl broffesiynol o’r diwydiant. Cwrs dwys, ymarferol sy’n gyfle i suddo i’r Byd Aml-blatfform

Mae Cyfle, yn chwilio am 8 unigolyn brwdfrydig i gymryd rhan yn y cwrs arloesol hwn, sydd yn cynnig Tystysgrif Ôl-Radd Ymarfer Proffesiynol yn y Diwydiannau Creadigol.

Yn fyr..
• Cwrs hyfforddi dwys llawn amser dros 4 mis
• Cysylltiadau a brîffiau uniongyrchol o’r diwydiant
• Lleolir yng Nghaerdydd
• Cymhwyster cydnabyddedig
• Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 24/02/2010
• Cynhelir cyfweliadau yn ystod wythnos yr 08/03/2010
• Dyddiad dechrau’r cynllun: 12/04/2010

Cymhwysterau..
• Yn 21 oed neu’n hŷn
• Wedi cwblhau Gradd gyntaf yn llwyddiannus (gradd isaf o 2:2)
NEU
 phrofiad proffesiynol a galwedigaethol yn y Diwydiannau Creadigol (teledu, ffilm, cyfryngau rhyngweithiol)
• Croesewir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg – bydd cyfleon i gynhyrchu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg

Dwi eisiau ceisio..
Ewch i’n gwefan am fanylion pellach a pecyn ymgeisio (gyda ffurflen gais ar-lein)

http://www.cyfle.co.uk/training-and-skills/television-2/recruitment/1709?diablo.lang=cym

Cyswllt – 029 2046 5533 / [url]mptv@cyfle.co.uk[/url]


Ym myd cystadleuol dwys Y Cyfryngau, bydd y cwrs yma yn rhoi i chi’r sgiliau i fod ar flaen y gad!

***********

Ariannir y cynllun hwn gan S4C, TAC, Academi+ Skillset a HEFCW a cefnogir gan Skillset a’r ATRiuM.
RIB
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Mer 13 Ion 2010 12:23 pm

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai