gan Havana123 » Llun 08 Maw 2010 2:17 pm
Reit, lle ddechreuai - i fod yn hollol onast dwi'n gweld safon rhaglenni cymraeg S4C yn isel. Pam na allwn ni fod yn gyffrous i gyd wrth ddisgwl am y bennod nesa o'n hoff raglenni pob wythnos? Dwi'n ymwybodol iawn ein bod ni fel Cymry yn hoff o wylio cyfresi Americanaidd megis '24' 'Lost' 'Prison Break' 'Jericho' 'the west wing' ac yn y blaen - ac yn bersonnol dwi'n ffeindio hi'n blesar mynd ati bob wythnos er mwyn cael dal i fynny efo fy hoff gymeriadau ar y sgrin fach. Y tro dwytha neshi hyn wrth wylio gyfres gan S4C oedd Talcen Caled a Blodau. (A dwi'n flin iawn bod Blodau wedi cael ei ganslo!!!Grr! Roedden ni fel gynulleidfa yn dechrau gweld y cymeriadau a'r straeon yn cryfhau wrth i'r sioe fynd yn ei blaen) Felly y cwestiwn sgen i ydi pa fath o gyfres sydd yn mynd i lwyddo ar S4C? Yn bersonnol swni yn licio gweld thriller cymraeg - rwbath eithaf tebyg i 'Lost' - rwbath sydd yn mynd i gal i wylio bob wythnos? Rhywun yn cytuno?