YN EISIAU, HYFFORDDEION AR GYFER DAU GYNLLUN HYFFORDDI CYFLE

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

YN EISIAU, HYFFORDDEION AR GYFER DAU GYNLLUN HYFFORDDI CYFLE

Postiogan RIB » Iau 11 Maw 2010 12:15 pm

YN EISIAU, HYFFORDDEION AR GYFER DAU GYNLLUN HYFFORDDI Mewn cydweithrediad â BBC Cymru Wales
______________________

CYNLLUN HYFFORDDI 6 MIS ADRAN GELF

Os oes gennych chi angerdd am gelf a’ch bod yn edrych am ffordd o lansio’ch gyrfa mewn cynhyrchu drama, gallai’r cynllun hyfforddi hwn gynnig yr ateb

Mae Cyfle yn chwilio am 4 unigolyn brwdfrydig i gymryd rhan yn y cynllun hyfforddi galwedigaethol, llawn amser dros 6 mis ar gyfer newydd ddyfodiaid i’r diwydiannau creadigol hwn. Rydym yn chwilio am hyfforddeion yn y meysydd canlynol:

• Hyfforddai Propiau Wrth Gefn
• Meistr Propiau dan hyfforddiant
• Hyfforddai Addurno Set
• Rhedwr dan hyfforddiant i’r Adran Gelf

Diddordeb? Cofia, ar gyfer y cynllun hwn rhaid i ti –

• Fod yn 18 oed neu’n hŷn (dim cyfyngiad oedran uwch)
• Fod yn newydd ddyfodiad sydd â 12 mis neu lai o brofiad gwaith yn y diwydiannau creadigol
• Mae Cyfle yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir

Yn fyr..

• Cwrs hyfforddi galwedigaethol llawn amser dros 6 mis
• Lleolir gyda BBC Cymru Wales yng Nghaerdydd
• Bydd hyfforddeion yn derbyn lwfans hyfforddi wythnosol

• Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 25 Mawrth 2010
• Cynhelir cyfweliadau rhwng y 19 – 30 o Ebrill 2010
• Dyddiad dechrau’r cynllun: 7 Mehefin 2010

(Ariannir y cynllun hwn gan Busnes Creadigol Cymru, Academi+ Skillset a HEFCW a cefnogir gan Skillset Cymru a BBC Cymru)

*********

CYNLLUN HYFFORDDI 10 MIS – AMRYWIAETH*

Os oes gennych chi angerdd am ddarlledu ac eisiau dysgu gan y gorau, gallai’r cynllun hyfforddi unigryw hwn gynnig yr ateb

Mae Cyfle yn chwilio am 3 unigolyn brwdfrydig sydd o gefndir Du neu Lleiafrif Ethnig* i gymryd rhan yn y cynllun hyfforddi galwedigaethol, llawn amser dros 10 mis ar gyfer newydd ddyfodiaid i’r diwydiannau creadigol hwn. Rydym yn chwilio am hyfforddeion yn y meysydd canlynol:

• Cynorthwy-ydd Rheoli Cynhyrchu dan hyfforddiant x 2
• Dylunydd Graffeg Iau dan hyfforddiant x 1

Diddordeb? Cofia, ar gyfer y cynllun hwn rhaid i ti –

• Fod o gefndiroedd du neu lleiafrif ethnig
(At bwrpas y cynllun hyfforddi sy’n gweithredu’n gadarnhaol yma, mae’r grwpiau hil canlynol yn cael eu targedu’n benodol a byddant yn cael eu galw fel grwp yn ‘Lleiafrif Ethnig’ – Asaidd; Asaidd/Prydeinig; Du/Prydeinig; Du/Arall; Tseineaidd; Dwyrain Canol/Agos; Ethnig Gymysg)
• Fod yn 18 oed neu’n hŷn (dim cyfyngiad oedran uwch)
• Fod yn newydd ddyfodiad sydd â 12 mis neu lai o brofiad gwaith yn y diwydiannau creadigol

* Mae hwn yn gynllun sydd yn gweithredu’n gadarnhaol. Mae wedi cael ei ddatblygu’n gytun gydag adran 37 Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 er mwyn annog grwpiau Du ac Ethnig Lleiafrifol i gyrraedd potensial mewn hyfforddiant sy’n gweithredu’n bositif mewn ardaloedd gwaith sydd yn dangos tan gynrychiolaeth.

Yn fyr..

• Cwrs hyfforddi galwedigaethol llawn amser dros 10 mis
• Lleolir gyda BBC Cymru Wales yng Nghaerdydd
• Bydd hyfforddeion yn derbyn lwfans hyfforddi wythnosol
• Yn agored i’r rheiny sydd o gefndiroedd du neu leiafrif ethnig

• Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 25 Mawrth 2010
• Cynhelir cyfweliadau rhwng y 19 – 30 o Ebrill 2010
• Dyddiad dechrau’r cynllun: 7 Mehefin 2010


Dwi eisiau ceisio..
Ewch i wefan CYFLE am fwy o fanylion a phecyn ymgeisio (gyda ffurflen gais arlein)

www.cyfle.co.uk/training-and-skills/television-2/recruitment?diablo.lang=cym

Cyswllt - 029 2046 5533 / new@cyfle.co.uk


(Ariannir y cynllun hwn gan BBC Cymru Wales, Skillset Academi + a HEFCW ac fe’i chefnogir gan Skillset Cymru)


RHYNGWEITHIO
Facebook (hyfforddiant cyfle training) Twitter (cyfle) Blog – hyfforddiantcyfletraining.blogspot.com
RIB
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Mer 13 Ion 2010 12:23 pm

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai