YN EISIAU – PEDWAR RHEOLWR ASED CYFRYNGOL
Wyt ti eisiau gweithio mewn archifau cyfryngol, mewn swydd sy’n amrywio bob dydd?
______________________
CYNLLUN HYFFORDDI ATODIAD 8 WYTHNOS I 4 RHEOLWR ASED CYFRYNGOL
Mae CYFLE yn falch iawn o allu cyhoeddi ein bod yn recriwtio ar gyfer cynllun newydd sbon sydd â’r bwriad o hyfforddi pedwar Rheolwr Ased Cyfryngol ar gyfer archifau. Mae hwn yn gynllun hyfforddi atodiad llawn amser dwys dros 8 wythnos i unigolion sydd wedi bod yn gweithio yn y diwydiannau creadigol am leiafswm o 12 mis.
Mae hwn yn gyfle unigryw i fod yn rhan o fenter gwych sy’n cynnig y cyfle i unigolion talentog i ennill profiad go iawn yn y diwydiant; hyfforddi mewn swydd; datblygu sgiliau arbennig; a derbyn cefnogaeth ac arweiniad parhaus gan bobl broffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiant.
Diddordeb? Cofia, ar gyfer y cynllun hwn rhaid i ti –
• Fod yn 21 oed neu’n hŷn (dim cyfyngiad oedran uwch)
• Fod wedi gweithio yn y diwydiannau creadigol am leiafswm o 12 mis.
• Fod yn byw yn y DU.
• Sgiliau T.G. ardderchog a sgiliau cyfathrebu a gyda’r gallu i gyfathrebu mewn ffordd briodol ar bob lefel.
• Mae Cyfle yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac annogir ceisiadau gan unigolion o bob cefndir.
Yn fyr..
• Cwrs hyfforddi galwedigaethol llawn amser dros 8 wythnos
• Lleolir mewn nifer o leoliadau gan gynnwys BBC Cymru Wales a ITV Cymru
• Bydd hyfforddeion yn derbyn lwfans hyfforddi wythnosol
• Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12yp, 8fed Ebrill 2010
• Cynhelir cyfweliadau rhwng y 13eg a’r 14eg o Ebrill 2010
• Dyddiad dechrau’r cynllun: 24ain o Fai 2010
Dwi am ymgeisio..
Ewch i’n gwefan am fwy o fanylion a phecyn ymgeisio (gyda ffurflen gais arlein)
www.cyfle.co.uk
Cyswllt – 01286 685242 / catrin@cyfle.co.uk
RHYNGWEITHIO
Facebook (hyfforddiant cyfle training) Twitter (cyfle) Blog – hyfforddiantcyfletraining.blogspot.com
******
Ariannir gan Gronfa Sgiliau Ffilm Skillset*, S4C a TAC a cefnogir gan Skillset
*Cefnogir Cronfa Sgiliau Ffilm Skillset gan y Loteri Genedlaethol drwy Cyngor Ffilm y DU a’r diwydiant ffilm drwy’r Gronfa Buddsoddi mewn Sgiliau.