Llwyth

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Llwyth

Postiogan Kez » Gwe 14 Mai 2010 8:11 pm

Wi'n cymeryd taw fan hyn mae siarad am bethach theatr - er taw dim ond ffilmiau,teledu a radio yw teitl yr edefyn.

Ifi newydd wylio 'Pethe hwyrach' ar y peth clic ar S4C ac oen nhw'n trafod y ddrama 'Llwyth'. Tri beirniad yn ei chanmol hi'n fawr ac rwyf yn gweld pobol eraill yn ei chanmol hi idd'u ffrindiau nhw ar bethach fel twitter a facebook.

Pam nag yw pobol yn trafod y ddrama 'ma ar Faes-e sydd yn agored i bawb???

Winna'n mynd idd'i gweld hi yn Llundain benwthnos nesa, felly alla i ddim rhoi barn ar hyn o bryd ond beth yw barn y bobol lawr gwlad sydd wedi'i gweld hi mor bellad.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Llwyth

Postiogan dwsi » Gwe 14 Mai 2010 8:28 pm

Mae'r ddrama yma yn wych. Ma hi'n codi dau fys at y statws quo cymraeg. Does neb yn saff!! :D
dwsi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Llun 11 Ion 2010 9:39 pm

Re: Llwyth

Postiogan sian » Gwe 14 Mai 2010 8:49 pm

Roedd arna i ofn cael fy siomi ar ôl yr holl ganmol ym mhob man - y Guardian a phobman.
Roedd e'n dechrau gyda monolog eitha barddonol a do'n i ddim yn siwr a oedd hynny'n gweithio - ond erbyn y monologs wedyn ro't ti wedi dod i nabod y cymeriad ac ro'n nhw'n ffitio'n fwy esmwyth.
Do'n i ddim yn siwr ar y dechrau chwaith a oedd angen i'r dynion i gyd fod mor amlwg hoyw - byddai un neu ddau mwy 'strêt' wedi bod yn neis - ond eto wrth i ti ddod i nabod y cymeriade, ro'n nhw'n dod yn nhw'u hunain.
Dwi'n meddwl mai'r peth gorau oedd bod ots 'da ti am y cymeriade i gyd - hyd yn oed os nad oeddet ti'n licio nhw lot.
Roedd yna bethe digri iawn ond roedd arna i ofn chwerthin rhag ofn i mi golli rhywbeth.


Fyswn i wedi disgwyl lot mwy o bobol ym Mhwllheli. Gaethon nhw golled!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Llwyth

Postiogan Jaff-Bach » Sul 16 Mai 2010 12:31 pm

Diddorol iawn darllen yr adolygiadau! Dwi am drio dod adra dydd mawrth ifi gael ei gweld hi yn y Wyddgrug, o be dwi wedi ddarllen mae'n swnio fel pe bai werth gwneud hynny
'Ydi Myrddin ap Dafydd yn fab i Dafydd ap Gwilym?............'
Rhithffurf defnyddiwr
Jaff-Bach
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Maw 31 Gor 2007 6:09 pm
Lleoliad: Llan Ffestiniog/Leeds

Re: Llwyth

Postiogan Kez » Sul 23 Mai 2010 12:08 am

Welas i hon heno a joio mas draw. Nag w i'n feirniad o unryw fath ond wi'n anghytuno a ti Sian bod y cymeriadau yn amlwg hoyw a bod angen un stret. Odd un cymeriad yn 'stret' iawn yn y ddrama, ond walla nag yw acto stret ne gay yn rhywbeth mor hawdd ei ddiffinio erbyn hyn - a da hynny.

Yr unig gwyn sydd gen i yw bod pris potelaid o seidr cyn ac ar ol y perfformiad yn four fucking quid!! Sim syndod bo neb yn mynd i'r theatr y ddyddia 'ma.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Llwyth

Postiogan Kez » Sul 30 Mai 2010 9:37 pm

Does nelo hon ddim byd a'r ddrama 'Llwyth', jyst bo fi'n meddwl y galsa'r gan a'r gantores 'ma fod yn reit gay iconish - os nag yw hi'n barod.

- ac own i ddim yn gwpod le arall idd'i roi ddi, felly dyma iti Nana Mouskouri yn canu 'Ar hyd y nos' - ac fi'n meddwl bod hi'n swno'n ffycin bril!!

Er hynny, bechod bo ddi'n greek- druan ohoni - wn i'm amdanot ti ond fi'n ffindo bod y Greeks yn reit miserable bastards; ma'r Polish yn wath cofia a phaid di a dychra fi off ar y muslims ne bydda i'n cal fatwa yn 'yn erbyn i. Sai'n lico'r un o nhw ond Live and let live i say ..

Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Llwyth

Postiogan Gowpi » Iau 03 Meh 2010 11:23 pm

Nes i gymryd rhan yn y ddrama hon yng nghaerfyrddin - o, ie! fel aelod o'r cor gyda llaw - merch odw i!!! Gethon ni brofiad anhygoel a licsen i ddiolch i'r holl griw cynhyrchu am wneud pethe mor rhwydd i bawb, ac am fod mor broffesiynol. Es i i weld y ddrama yn Abertawe ar y penwythnos canlynoli Gfyrddin a'i mwynhau yn ofnadw'! Gwirioneddol wych, sgript gref, cymeriadau byw, cerddoriaeth hyfryd, joio joio!
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Re: Llwyth

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 07 Meh 2010 5:52 pm

Erthygl gan Beca Brown yng nghylchgrawn bARN. Dolen isod:

http://www.cylchgrawnbarn.com/index.php ... &Itemid=93
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai