Oes unrhyw un yn gwylio'r gyfres boncyrs yma ar Bravo? Rhyw gyfuniad o Gladiator, 300 a Caligula.
Gladiator = ymladd mewn colisiwm.
300 = lot o drais stylised iawn, gwaed CGI yn hedfan trwy'r awyr yn araf bach, pen yn troelli trwy'r awyr wedi iddo gael ei dorri ffwrdd ayyb.
Caligula = lot o shelffo, ddim o reidrwydd yn ymwneud a'r plot.
Mae'n berffaith ar gyfer Bravo a gweud y gwir, cyfuniad o ymladd ffyrnig a porn meddal .
Gog sy'n chwarae'r prif rol (methu a chofio'i enw), yn anffodus mae wedi cael cancr felly mae'r ail gyfres wedi'i ohirio wrth iddo gael triniaeth. Mae John Hannah yn chwarae perchennog y cwmni gladiators, Mae Hannah cymaint gwell actor nac unrhywun arall yn y gyfres mae'n ddoniol! Lucy Lawless (Xena Warrior Princess) yw gwraig John Hannah yn y gyfres.
Nonsens gwych i wylio ar ol cael shaclad yn fy marn i.
Chickenfoot, os oes cyfres erioed wedi ei wneud i ti, hon yw hi