Tudalen 1 o 1

Spartacus: Blood & Sand

PostioPostiwyd: Iau 27 Mai 2010 8:07 am
gan ceribethlem
Oes unrhyw un yn gwylio'r gyfres boncyrs yma ar Bravo? Rhyw gyfuniad o Gladiator, 300 a Caligula.
Gladiator = ymladd mewn colisiwm.
300 = lot o drais stylised iawn, gwaed CGI yn hedfan trwy'r awyr yn araf bach, pen yn troelli trwy'r awyr wedi iddo gael ei dorri ffwrdd ayyb.
Caligula = lot o shelffo, ddim o reidrwydd yn ymwneud a'r plot.

Mae'n berffaith ar gyfer Bravo a gweud y gwir, cyfuniad o ymladd ffyrnig a porn meddal :lol: .

Gog sy'n chwarae'r prif rol (methu a chofio'i enw), yn anffodus mae wedi cael cancr felly mae'r ail gyfres wedi'i ohirio wrth iddo gael triniaeth. Mae John Hannah yn chwarae perchennog y cwmni gladiators, Mae Hannah cymaint gwell actor nac unrhywun arall yn y gyfres mae'n ddoniol! Lucy Lawless (Xena Warrior Princess) yw gwraig John Hannah yn y gyfres.

Nonsens gwych i wylio ar ol cael shaclad yn fy marn i.

Chickenfoot, os oes cyfres erioed wedi ei wneud i ti, hon yw hi :winc:

Re: Spartacus: Blood & Sand

PostioPostiwyd: Iau 27 Mai 2010 6:53 pm
gan Chickenfoot
Dim cweiit, Ceri - tase Van Halen (Roth version) yn gwneud y soundtrack a Cameron Diaz fel yr oedd hi yn y Mask yn actio rhan Lucy Lawless, wedyn - a dim ond wedyn - mi fuaset ti'n gywir. :winc:

Actor o Awstralia, ond gynt o Amlwch, o'r enw Andy Whitfield sy'n chwarae I am Spartacus yn hwn. Mae o di bod mewn lot o bethau yn Oz ond hwn di'r big break.

Re: Spartacus: Blood & Sand

PostioPostiwyd: Sad 05 Meh 2010 3:33 am
gan Blewyn
Wedi gweld diwedd y gyfres - edrych ymlaen yn arw at y trydydd gyfres, pan fydd yr actor wedi iachau gobeithio a'r stori yn mynd ymlaen...