Cwestiynu penderfyniadau S4C

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cwestiynu penderfyniadau S4C

Postiogan twat » Llun 31 Mai 2010 8:09 pm

Arol darlledu am 16 o flynyddoedd daeth rhaglen UNED 5 i ben ddoe oherwydd penderfyniad S4C i ail wampio ei rhagleni ir oedran 13+. Ac ynol pob son ma'r mwyafrif o'r gyllideb wedi ei rhoi i gwmni arall i ddatblygu dwy ddrama ar gyfer 13+. Mae'r penderfyniad hyn mwy na thebyg yn golygu y bydd oddeutu 60 o staff yn colli ei swyddi gyda gwmni teledu Antena ac gyda'r newyddion diweddaraf am broblemau cwmni Barcud Derwen gallai olygu y bydd oddeutu 100 o staff yn colli ei swyddi yn y Gogledd oherwydd penderfyniadau s4c. Wrth gwrs gellir dadlau y bydd nifer o swyddi yn cael ei creu gan y cwmni arall ond pwy sydd i ddweud y byddent yn recrwtio staff Antena/barcud ac hudnoed yn y Gogledd o gwbwl? Gellir dadlau y fod pethau heb fod mor gret i UNED 5 ers i S4C symud y sioe ir graveyard slot amser cinio dydd Sul, ac ynol pob son mond rhoi chydig wsnosau o rybudd i'r cwmni cynhyrchu. Ond wedi dweud hynny uned 5 oedd dal yr unig sioe ar ein sianel a oedd yn rhoi llwyfan i fandia byw, felly yn ogystal ar ergyd i nifer o swyddi ar diwydiant darlledu yn y gogledd gelli'r dadlau ei fod yn ergyd ir Sin Roc Gymraeg? ta yw artistiad yn mynd i gael perfformion fyw ar y ddramau yma sydd wedi ei comisynu yn lle uned 5? na dwim yn meddwl. Be ma pawb yn feddwl o hyn?
twat
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Sul 05 Hyd 2003 3:57 am

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron