Iona Jones wedi gadael S4C!!

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan Cedwyn » Maw 03 Awst 2010 6:47 am

Oes rhywun 'di gweld LOL 'to?
Cedwyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Gwe 21 Awst 2009 10:20 pm

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Mer 04 Awst 2010 11:29 am

Llai o S4Cheque a mwy o S4Cymraeg am Byth!
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 04 Awst 2010 10:36 pm

huwwaters a ddywedodd:
Madrwyddygryf a ddywedodd:Wedi darllen darn Matt Withers yn Western Mule heddiw. Mae'n dweud y canlynol:
£1,000 a month goes, incredibly, on leasing a Land-Rover for presenter Dai Jones


Siryisli, di hynny ddim yn wir?


Ydi dwi'n meddwl, ond darllenais Dai Jones yn ceisio'i gyfiawnhau gan egluro fod y Land Rover yn cael ei ddefnyddio ganddo, y cyfarwyddwr a rhywun arall etc. i wneud popeth. H.y. gyrru o gwmpas Cymru i ffilmio etc. a bod hyn yn gweithio allan yn rhatach na rhentu etc.


Iawn digon teg. Ond mae hynny rhwng Dai Jones a cwmni cynhyrchu rili yntydi? Mae S4C fod i dalu dim ond am y rhaglenni ac nid Land Rovers.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan Chwadan » Gwe 06 Awst 2010 9:35 pm

Mae'n go amlwg fod na gagging clause ar bawb dydi debyg, achos does na ddim mwy o newyddion rwan nag oedd wythnos yn ôl. Dwi'n ei chael hi'n go anodd mynegi fy rhwystredigaeth efo'r holl beth, a be sy'n waeth ydi nad oes gennan ni ffordd o fynnu atebolrwydd nac atebion :ing: S4C ydi'r cyfryngau Cymraeg i raddau helaeth; mae Golwg a LOL wedi trio ond all Golwg ddim rhedeg efo'r stori heb ddim byd i'w ddweud. Y prif ddiffyg ydi fod yr Awdurdod, sef y corff sydd i fod yn gyfrifol am atebolrwydd S4C, rwan yn rhan o'r hollol blydi sothach. Tasa hwn yn unrhyw gorff cyhoeddus arall mae'n garantîd y basa'r Byd ar Bedwar ar drywydd y peth.

Mae'r holl beth yn sarhad llwyr ar Gwynfor a'r ymgyrchwyr sianel Gymraeg eraill. Mae nhw, ac rydan ni, yn haeddu gwell o lawer.

ON Siarad efo rhywun sy'n gweithio i'r Awdurdod ddoe, gan awgrymu fod 'na broblemau enfawr - roedd o'n "edrych ymlaen at ddyfodol llewyrchus". Heh.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan dafydd » Gwe 06 Awst 2010 10:26 pm

Chwadan a ddywedodd:Mae'n go amlwg fod na gagging clause ar bawb dydi debyg, achos does na ddim mwy o newyddion rwan nag oedd wythnos yn ôl.


Mae Winston wedi eu hyfforddi nhw yn dda. Wnaeth Iona Jones ddweud nad oedd S4C wedi ei gynllunio ar gyfer toriadau a mae'n amlwg nawr nad yw strwythur S4C wedi ei gynllunio ar gyfer y math o anghytundeb sydd wedi bod. Dwi'n dyfalu nad oedd hi yn rhan o'r "old boys club" sy'n dueddol o godi mewn sefydliadau fel hyn (yn amlwg, mae'n fenyw) a mae hynny yn beth da. Ond mae hynny yn bwynt ar wahan i'r strategaeth wnaeth hi ei ddilyn (gyda cefnogaeth yr awdurdod) a pha mor ddoeth oedd hynny neu beidio.

Newydd ddarllen ar wefan S4C fod nhw am wario ar 'asesiad' o fudd economaidd y sianel er fod un wedi ei gyhoeddi yn 2007! Faint fydd yr adroddiad yma yn gostio sgwn i? Swnio fel fod nhw'n despret i gyfiawnhau eu cyllid o'r DCMS.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan Eliffant » Sad 07 Awst 2010 8:39 am

Teyrnged Iona Jones

Delwedd


Sothach Cymru:
http://iestyn1.wordpress.com/
[url]http://iestyn1.wordpress.com/[/url]
Rhithffurf defnyddiwr
Eliffant
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 6
Ymunwyd: Iau 10 Rhag 2009 11:16 pm

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Gwe 13 Awst 2010 2:36 pm

Pur anaml y bydda i yn gwylio S4C y dyddiau yma. Llai o blydi selebs di-dalent a Barbie Dolls os gwelwch yn dda- darllen llyfr difyr yn opsiwn llawer gwell.
Opsiwn arall ydi gwylio fideo difyr Cymraeg ar youtube (nid bod pob fideo yn wych, rhaid cyfaddef).Dwi wedi gwylio sawl fideo Cymraeg ar iwtiwb sydd wedi costio nesa peth i ddim
Nid S4C yw dechrau a diwedd popeth ynglyn a gwylio a gwrando ar bethau Cymraeg ar sgrin!
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan Hazel » Gwe 13 Awst 2010 3:10 pm

Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Pur anaml y bydda i yn gwylio S4C y dyddiau yma. Llai o blydi selebs di-dalent a Barbie Dolls os gwelwch yn dda- darllen llyfr difyr yn opsiwn llawer gwell.


:-) Swnio fel America. :)
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Maw 17 Awst 2010 1:15 pm

Yn anffodus, mae yna Kens Cymraeg hefyd. Safon oedd safon. Safon yw safon. A safon fydd safon (a plastig ydi plastig).
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan ceribethlem » Maw 17 Awst 2010 11:15 pm

Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Yn anffodus, mae yna Kens Cymraeg hefyd. Safon oedd safon. Safon yw safon. A safon fydd safon (a phlastig ydi plastig).

OS ni'n son am safon, onid y trwshad sy'n gywir :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai

cron