Iona Jones wedi gadael S4C!!

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan ceribethlem » Maw 17 Awst 2010 11:18 pm

Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Pur anaml y bydda i yn gwylio S4C y dyddiau yma. Llai o blydi selebs di-dalent a Barbie Dolls os gwelwch yn dda- darllen llyfr difyr yn opsiwn llawer gwell.
Opsiwn arall ydi gwylio fideo difyr Cymraeg ar youtube (nid bod pob fideo yn wych, rhaid cyfaddef).Dwi wedi gwylio sawl fideo Cymraeg ar iwtiwb sydd wedi costio nesa peth i ddim
Nid S4C yw dechrau a diwedd popeth ynglyn a gwylio a gwrando ar bethau Cymraeg ar sgrin!

Fi'n cytuno gyda lot fawr o dy sentiment, ond, mae rol hynod o bwysig iawn gyda S4C i chwarae yn nyfodol yr iaith.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan zorro » Mer 18 Awst 2010 5:59 am

:ing: :ing:
Cytuno'n llwyr. Mae S4C yn hynod o bwysig i ddatblygiad yr iaith. Angenreidiol felly ei fod yn cael ei reoli yn effeithiol, gyda goruwchwyliaeth gofalus gan Awdurdod cydwybodol : rhywbeth wnaeth ddim digwydd o dan y Politburo diwethaf.

Sori, ond sut yn y byd mae John Walter Jones wedi cadw ei swydd ? Dyna fe nawr yn ymddwyn fel rhyw Messiah bach, yn rhoi'r argraff fod e wedi camu mewn ag achub y sianel, lle mewn gwirionedd, ef a'i awdurdod oedd i fod plismona Iona yn y lle cyntaf!!

Mae pawb yn sôn am y £160,000 'roedd Iona Jones yn ennill, cofiwch fod John Walter Jones hefyd yn ennill dros £50,000 AM 3 DIWRNOD O WAITH YR WYTHNOS !!

Ers bosib gall y dyn ddim goroesi llawer hirach.
zorro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2009 11:23 pm

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Iau 19 Awst 2010 1:20 pm

ceribethlem a ddywedodd:Fi'n cytuno gyda lot fawr o dy sentiment, ond, mae rol hynod o bwysig iawn gyda S4C i chwarae yn nyfodol yr iaith.

Wrth gwrs...afraid dweud...synnwyr cyffredin yw hyn (tydw i erioed wedi mynegi barn sy'n hollol groes i hyn). [i]For the record[i] math o beth..
Nid Radio Cymru yw dechrau a diwedd y weiarles Cymraeg. Nid S4C yw dechrau a diwedd pethau ar sgrin yn Gymraeg. Nid e.e. Barddas yw dechrau a diwedd barddoniaeth gyfoes Gymraeg. Mond dweud...gellir canfod diwylliant Cymraeg mewn llefydd "tu allan i'r bocs" ar adegau. Mae'n bwysig pwysleisio hyn ambell waith.

Pwynt arall:
Ydio'n iawn fod unrhyw un sy'n cael cyflog yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan S4C yn cael mwy na e.e. nyrs? Nadi siwr Dduw ydi'r unig ateb call a theg. Mae pawb sydd jesd ddim yn deall hyn yn ffacin ffwl!
Bydd rhai yn fy nghyhuddo o fod yn ffwl naif sydd ddim yn deall y byd go iawn... Wel, CHI ydi'r ffyliaid, nid myfi.
Tydi'r ffaith fod yna lot o gathod llawer tewach ar sianeli di-Gymraeg ar draws y byd ddim yn cyfiawnhau gor-fwydo gormod o gathod tew ar y sianel Gymraeg.
Mond dweud...
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant


Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 27 Awst 2010 6:40 pm

Arwydda'r ddeiseb - Na i doriadau S4C: http://deiseb.cymdeithas.org/ 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 27 Awst 2010 10:34 pm

Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan Llygad Llo Mawr » Gwe 10 Medi 2010 4:10 pm

ofer esgeulustod a ddywedodd:
Newyddion y BBC a ddywedodd:Mae Prif Weithredwr S4C wedi gadael, cyhoeddwyd nos Fercher.

Yn dilyn cyfarfod o Awdurdod S4C, mae Iona Jones, Prif Weithredwr y Sianel wedi gadael S4C.

Mewn datganiad, dywedodd S4C: "Dymuna Aelodau Awdurdod S4C ddiolch i Iona Jones am ei gwasanaeth i'r Sianel.

"Ni fydd unrhyw sylw pellach", medd y datganiad.


Beth yw'r stori?


Mi fydd hi'n amser troi'r clocia'n ol yn o fuan - sut uffar ma dwad o hyd i do bach ar y blydi peth 'ma 'dwch? - a d'oes na ddim siw na miw oddi wrth unrhyw un yn y wasg ynglyn a'r stori uchod. Mae'r peth yn warthus. Anfonwch e-bost ar fyrder at Despatches yn Channel 4 - waeth i chi heb a gwastraffu'ch amser efo'r Byd ar Bedwar - i weld os oes unrhyw un o'r tu allan i Gymru fach a diddordeb mewn corddi'r dyfroedd, neu mi geith y tacla di-egwyddor 'ma yn S4C get-awe efo hi unwaith yn rhagor. "Ni fydd unrhyw sylw pellach" wir! Tydi hwn yn gorff cyhoeddus, siwr goblyn, ac felly mi ddylsa bod y cadeirydd (honedig), John Walter Jones, yn atebol i'r cyhoedd.

Be ddiawl sy'n bod arnom ni fel cenedl, dudwch, ein bod ni wedi mynd mor llywaeth?
Rhithffurf defnyddiwr
Llygad Llo Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 05 Awst 2010 10:43 pm

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan zorro » Llun 13 Medi 2010 10:37 pm

Mi fydd hi'n amser troi'r clocia'n ol yn o fuan - sut uffar ma dwad o hyd i do bach ar y blydi peth 'ma 'dwch? - a d'oes na ddim siw na miw oddi wrth unrhyw un yn y wasg ynglyn a'r stori uchod. Mae'r peth yn warthus. Anfonwch e-bost ar fyrder at Despatches yn Channel 4 - waeth i chi heb a gwastraffu'ch amser efo'r Byd ar Bedwar - i weld os oes unrhyw un o'r tu allan i Gymru fach a diddordeb mewn corddi'r dyfroedd, neu mi geith y tacla di-egwyddor 'ma yn S4C get-awe efo hi unwaith yn rhagor. "Ni fydd unrhyw sylw pellach" wir! Tydi hwn yn gorff cyhoeddus, siwr goblyn, ac felly mi ddylsa bod y cadeirydd (honedig), John Walter Jones, yn atebol i'r cyhoedd.

Be ddiawl sy'n bod arnom ni fel cenedl, dudwch, ein bod ni wedi mynd mor llywaeth?


Clywch clywch.. o'r diwedd rhywun ar y forwm ceiniog a dimau 'ma sydd yn siarad rhywfaint o sens !!

Mae'r sefyllfa yn sgandal, yn warthus a siwr o fod yn ymylu ar fod yn anghyfreithlon. Dychmygwch sgandal tebyg yn digwydd yn y BBC yn Llundain...a fydde'r wasg mor dawedog yna ddwedwch ? Mae'n arwyddocaol os edrychwch ar y seat yma'n unig fod pob datblygiad yn y stori gwarthus yma wedi'i adrodd i ni'r Cymry drwy dudalennau'r Guardian.
zorro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2009 11:23 pm

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 21 Medi 2010 4:00 pm

Mae'n dechrau dod i'r amlwg heddiw mai'r rheswm i Iona Jones fynd, oedd gan iddi hi gytuno i doriadau o 2m gan y DCMS eleni, er ei bod hi'n gwybod bod gwneud hyn yn anghyfreithlon, ac er bod John Walter Jones wedi cysylltu gyda'r DCMS i ddatgan yn glir y byddai hyn yn anghyfreithlon, a na fyddai ef yn cytuno i'r toriadau...

http://www.golwg360.com/Hafan/cat46/Erthygl_16008.aspx
http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-11378124
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9 ... 016858.stm

Mae'r cawl yn twchu!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan Josgin » Maw 21 Medi 2010 4:36 pm

A yw hyn yn golygu mai John Walter Jones yw'r gwladgarwr , ac mai Iona Jones oedd y fradwraig ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai

cron