Iona Jones wedi gadael S4C!!

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan ofer esgeulustod » Mer 28 Gor 2010 8:36 pm

Newyddion y BBC a ddywedodd:Mae Prif Weithredwr S4C wedi gadael, cyhoeddwyd nos Fercher.

Yn dilyn cyfarfod o Awdurdod S4C, mae Iona Jones, Prif Weithredwr y Sianel wedi gadael S4C.

Mewn datganiad, dywedodd S4C: "Dymuna Aelodau Awdurdod S4C ddiolch i Iona Jones am ei gwasanaeth i'r Sianel.

"Ni fydd unrhyw sylw pellach", medd y datganiad.


Beth yw'r stori?
ofer esgeulustod
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Mer 07 Gor 2010 9:35 pm

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan bed123 » Mer 28 Gor 2010 9:10 pm

Mae yna rhywbeth mawr wedi digwydd rhwng bwrdd rheoli a Iona Jones, effallai am yr holl stwff sy wedi bod yn y gwasg Saesneg am ffigyrau gwylio?
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan Mwnci Banana Brown » Mer 28 Gor 2010 10:20 pm

Diddorol.
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 4:45 pm

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 29 Gor 2010 9:24 am

Oes angen talu £150,000 ? Oes unrhyw un wir yn haeddu'r fath arian? Fi'n siwr bydde lot o bobl abl iawn yn barod i wneud y gwaith am drydydd rhan o'r cyflog yna. Mae angen torri cyflogau ar y top (a thrwy'r diwydiant i weud y gwir), a chael pobl i weithio sydd wir eisiau gwneud gwahaniaeth, nid llanw eu pocedi! (nid mod i'n awgrymu mai dyna be mae'r criw ar y top yn gwneud nawr wrth gwrs!) Nid sianel gyffredin yw S4C. Bydd hi byth yn gallu cystadlu gyda'r sianeli Saesneg, mae'n amhosib. Angen iddi droi mewn i sianel mwy cymunedol, dyna'r ffordd o gael cynnwys diddorol, mwy o wylwyr a gwario llai o arian. Mae angen iddi hefyd sylweddoli'n glir ei dyletswydd o ran hyrwyddo'r Gymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 29 Gor 2010 3:23 pm

Mae angen dod â rhywun i mewn sydd am chwyldroi S4C. Ddaru Iona Jones ddim gwneud jobyn rhy dda dwi'm yn meddwl. Gobeithio y bydd John Walter yn ei dilyn, mi dduda' i hynny.

Mae angen rhywun o'r tu allan i'r swigen ond dowt gen i geith y fath berson gyfle.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan zorro » Gwe 30 Gor 2010 1:56 pm

Mae'r broblem yn mynd yn ddyfnach na jist Iona Jones. John Walter Jones, cadeirydd S4C ar y newyddion neithiwr yn gwrthod ateb cwestiwn ar pam mae IJ wedi mynd.....Mater bersonol meddai ef...dim pan taw £100,000,000 o'n harian ni sydd yn talu am eich coc ups. Hwn yn arwyddocaol o agwedd hunan bwysig S4C. Meddwl fod nhw'n medru gwneud unrhyw beth ma nhw am a wedyn gwrthod esbonio dan yr argraff bod nhw'n well na ni a ni fyddwn ni'n deall nag yn haeddu cael esboniad.
Ble 'roedd Jonh Walter Jones a'r Awdurdod pan oedd y penderfyniad i wario £4,000,000 ar ail wneud swyddfa S4c yn cael ei gymryd ? Hyn ar adeg pryd oedd S4C yn anog eu cwmnioed cynhyrchu i dorri costau. Os yw Iona Jones wedi mynd, yna ddylai JWJ, y cadeirydd hefyd fynd.

A beth am y polisi commisiynnu rhaglenni trychinebus ? Gweld fod Rhian Gibson...sydd gyda llaw "ddim yn gwneud comedi" ( ei geiriau hi !!) yng nghofal comisiynnu y dyfodol ac yn rhannol rhedeg S4C!!!! Eto, yng ngholau'r ffigurau gwylio trychinebus sydd siwr o fod wedi bod yn un o'r factorau yn y trychineb yma wedi dod i'r golwg, ddylai hi fynd, yn syth a heb gwestiwn. Gofynnwch i unrhyw gwmni annibynnol beth mae nhw'n feddwl am allu golygyddol Rhian Gibson a mi fydd na rolio llygaid a chwerthin anghyforddus. Fyddai'n ddoniol onibai fod e mor ddifrifol. Newyddiadurwraig yw hi....daliwch ymlaen, 'doedd hi ddim hyd yn oed yn newyddiadurwraig go iawn...jist yn bennaeth aran newyddion Gymraeg y BBC ar adeg pryd oedd 'na ddiffyg talent yn yr adran. 'Does gyda hi ddim syniad beth sydd yn boblogaidd ( gweler ffigurau gwylio), 'Does gyda hi ddim syniad sut i ymdrin â'r cyhoedd ( gweler unrhyw un o'r troeon mae hi wedi gorfod ymddangos a siarad yn gyhoeddus - Robot !!) a mae hi'n cael ei thalu dros £100,000 y flwyddyn ( gweler adroddiad blynyddol S4C) Am yr arian yna, fi eisiau gweld figwr cyhoeddus, sydd yn comisiynu rhaglenni poblogaidd ag sydd yn atebol iw gynulleidfa os nad yw. 'Dyw Rhian Gibson ddim yn ffitio'r un o'r cymhwysterau yma.

Ymunwch yn y drafodaeth gyda'ch straeon chi am y ddau ffigwr yma.....mewn undeb mae nerth. :crechwen:
zorro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2009 11:23 pm

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan Chwadan » Gwe 30 Gor 2010 2:49 pm

Teimlo braidd yn sâl o weld fod Cynghrair y Trethdalwyr wedi gwneud sylw am hyn - ond mae ganddyn nhw bwynt. Nid dim ond trethdalwyr Cymru sy'n talu am S4C, ac mae hyn yn gosod mwy fyth o ddisgwyliadau ynglŷn ag atebolrwydd a thryloywder ar ysgwyddau'r bosys. Un peth ydi gwario pres pobl sydd falle'n mynd i wylio'r sianel, peth arall ydi gwario pres pobl nad oes disgwyl iddyn nhw wylio eiliad byth.

Cytuno efo HoRach - JWJ i ddilyn IJ gobeithio. Dwi ddim yn siwr o gwbl am y busnes tîm rheoli/awdurdod yn un - lleihau atebolrwydd ymhellach debyg?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan dawncyfarwydd » Gwe 30 Gor 2010 2:57 pm

Dyma oedd un o'r postiau wnes i ar fy mlog - falle caiff o fwy o ymateb yn fan hyn!

Dydi Vaughan Roderick ddim yn gwybod be sy’n digwydd.

Mae John Walter Jones newydd roi cyfweliad ar Newyddion. Y swm a’r sylwedd oedd: ‘DWI’M YN DEUD’.

Rydan ni’n gwybod bod Iona Jones wedi gadael ac mae’r ffaith fod JWJ yn gwrthod trafod ‘personoliaethau’ yn awgrymu bod ‘personoliaethau’ yn bwysig yn y mater.

Ac rŵan, mae yna ddatganiad wedi dod i law ynglŷn â sut y bydd S4C yn cael ei rhedeg o hyn allan.

Y jist? Maen nhw am wneud heb Brif Weithredwr tan ‘maes o law’, ac mae’r Awdurdod am weithio yn agos iawn efo tîm rheoli o bedwar.

Felly mae’n edrych fel bod yr Awdurdod wedi penderfynu cymryd pethau yn eu dwylo eu hunain. Mae o’n fy atgoffa i o ryw fath o ‘military coup’. Mae pethau wedi mynd yn rhy bell, felly mi gymerwn ni’r awenau beth bynnag y mae pobol yn ei ddweud.

Falle y bydd pethau’n gwella efo’r datblygiad hwn. Mae John Walter yn dweud ‘y byddai S4C yn gweithio’n agosach gyda chwmnïau’r sector annibynnol er mwyn sicrhau dyfodol cadarn i’r Sianel a’r darparwyr rhaglenni.’

Mae hynny’n beth da. Ond mae yna wendidau mawr iawn yn yr hyn sy’n digwydd rŵan.

Annibyniaeth

Mae angen i Awdurdod y sianel fod yn annibynnol, siawns? Mae’r datganiad hwn i weld yn ymwybodol iawn fod y datblygiadau yma yn gwanio’r ffiniau rhwng yr Awdurdod a rheolaeth y sianel.

Yng ngeiriau JWJ ei hun: “…y newid sylfaenol yw bod y syniad o ‘arwahanrwydd’ rhwng Awdurdod S4C a’r tîm rheoli wedi dod i ben. Un corff unedig ydi S4C…”

Mae hyn yn anghyfrifol iawn. Os ydi’r corff sy’n goruchwylio sut mae’r sianel yn cael ei rheoli wedi penderfynu rheoli’r sianel, pwy sydd yna i oruchwylio sut mae’r sianel yn cael ei rheoli?!

Gweithredu

Mae’r ffordd yr aethpwyd ati yn wallgof. Yn lle aros am fymryn i’r straeon gilio, yna cyhoeddi amserlen chwe mis yn dweud yn eglur beth ydi’r penderfyniadau a beth fydd yn digwydd o ran personel a strwythur, mae’n edrych fel bod pethau wedi mynd o chwith wrth geisio cael gwared ar Iona a bod yr Awdurdod yn ei wingio hi rŵan.

Oes gan John Walter Jones gynllun mawr i achub y sianel? Dydi o ddim yn cael hwyl dda iawn ar weithredu’r cynllun hwnnw.

Dwi’n cymryd mai John Walter Jones sy’n tynnu’r llinynnau yn ystod yr episôd hon. Mae sut mae’r Awdurdod yn gweithredu chydig bach yn vigilante, ydi ddim?

Bod yn agored

Dyma mae gwefan Awdurdod S4C yn ddweud:

“Mae Awdurdod S4C wedi ymrwymo i bolisi o fod mor agored â phosib am ei drafodaethau a’i benderfyniadau.”

Wps.

Mae’n gwbl gobsmacing fod S4C yn teimlo y gallan nhw fod mor gudd a chaeedig wrth wneud hyn.

Mewn cyfnod lle mae yna bwyso am onestrwydd a chynildeb yn y sector gyhoeddus, maen nhw’n bod yn gwbl anystyriol o hawl pobl i gael gwybod beth sy’n digwydd efo’n sianel ‘ni’.

-

Dau beth i orffen. Yn gyntaf, petai hyn yn digwydd efo’r BBC, mi fyddai Michael Lyons (Cadeirydd y BBC Trust) wedi’i groeshoelio yn y papurau. Mi fyddai pobl wedi mynnu gonestrwydd a chael gwybod yr hyn sy’n digwydd. Fyddai gweithio tu ôl i’r llenni fel hyn jyst ddim yn cael ei dderbyn yn Lloegr. Mae’n cyfryngau ni yng Nghymru yn rhy wan i fynnu newid.

Yn ail, mae pobol yn darogan gwae rŵan na chaiff S4C ei chysgodi rhag toriadau Llundain. Wel yn gynta peth, allwn ni drystio S4C efo pres cyhoeddus eniwe? Ac mae’r bennod fach gywilyddus yma yn profi bod peth imiwnedd gan S4C – mi fyddai’r llywodraeth wedi ymyrryd yn barod efo llawer sefydliad arall.


Mae golygyddion Lol mewn lle difyr. Mae Vaughan Roderick yn awgrymu mai cynnwys y cylchgrawn roddodd y sbardun i ymadawiad Iona Jones - felly ydyn nhw yn cyhoeddi fel ag yr oedd o, ta ydyn nhw'n addasu'r cynnwys ar gyfer y sefyllfa newydd yma? Gobeithio bod yna ddigon o stwff i fod o werth hyd yn oed ar ôl y newid yma!
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...


Re: Iona Jones wedi gadael S4C!!

Postiogan dafydd » Gwe 30 Gor 2010 7:21 pm

Mae'n wael iawn fod yr Awdurdod a phrif weithredwr newydd 'dros dro' S4C yn cuddio tu ôl i'r 'gagging clause' (rhywbeth na ddylai fodoli yn nghontract prif weithredwr corff cyhoeddus). Mae dau ochr i bob stori - pwy sy'n cael eu amddiffyn fan hyn? Mae Cymru yn le bach.. does bosib na fydd y stori yn dod allan cyn hir beth bynnag. Efallai fydd Lol yn esbonio'r cefndir os nad digwyddiadau'r wythnos ddiwethaf.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai