gan William312 » Sul 01 Awst 2010 11:27 pm
Gobeithio y daw tro ar fyd ar fyrder. Prin iawn y byddaf yn sbio ar S4C a'r rheswm pennaf am hynny ydi bod y rhaglenni o 1800 i 2025 bob nos o nos Lun i nos Wener yr un fath fwy neu lai ac felly dwi byth yn sbio i weld beth sydd ymlaen. Rhaid wrth fwy o amrywiaeth i fywiogi'r oriau brig.
Yr ateb: Llai o Wedi 7, llai o Bobol y Cwm - mae dwy neu dair gwaith yr wythnos yn hen ddigon - a mwy o ddramau a rhaglenni gwahannol. Hefyd, fe ddylai y rhaglen newyddion fod ymlaen yn gynharach - erbyn hanner awr wedi saith mae'r rhan fwyaf o bobl sydd a diddordeb mewn newyddion wedi gweld neu glywed newyddion Cymreig, Prydeinig a byd eang.
Yn fy marn i, mae angen ychwanegu cyffro i arlwy yr oriau brig yn anad dim.
"W tybed beth sy' mlaen heno?" yw cwestiwn dwi byth yn ei ofyn am S4C. Rhaid newid hynny. Mae'r sefyllfa bresennol yn rhoi cyfle euraidd i elynion y sianel, ac mae'n rhaid wrth welliant cyflym i sicrhau'r dyfodol.