Josgin a ddywedodd:A yw hyn yn golygu mai John Walter Jones yw'r gwladgarwr , ac mai Iona Jones oedd y fradwraig ?
Ddim yn siwr pam fod pawb yn amai JWJ (ddim wedi gwneud ffrindiau gyda Pleidwyr/CyI yn ystod ei gyfnod ym Mwrdd yr Iaith dwi'n cymryd?) a mae yna ddigon o bobl yn y cyfryngau wedi bod yn dweud pethau cas am IJ.
Dwi ddim yn gwybod lle mae wedi bod yn cuddio hyd yn hyn, ond mae JWJ yn edrych yn dda mewn 'crisis mode' a mae yna fwy o 'ymgynghori' gyda'r cyhoedd am ddyfodol S4C (beth sydd yn dda a beth sydd angen gwella) wedi digwydd ers i Iona Jones adael na sy wedi bod ers y cychwyn!