BBC Wales a'r Wythnos

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

BBC Wales a'r Wythnos

Postiogan Jon Sais » Llun 16 Awst 2010 12:32 pm

Ni fydd Yr Wythnos (Rhaglen Newyddion i ddysgwyr) yn cael eu darlledu eto yn yr Hydref. Mae'r BBC wedi penderfynnu dod a'r rhaglen i ben.
Rŵan does dim un rhaglen ar ôl ar S4C yn arbennig i ddysgwyr.
Jon Sais
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Sul 21 Mai 2006 6:14 pm
Lleoliad: Swydd Derby

Re: BBC Wales a'r Wythnos

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 16 Awst 2010 6:40 pm

Jon Sais a ddywedodd:Ni fydd Yr Wythnos (Rhaglen Newyddion i ddysgwyr) yn cael eu darlledu eto yn yr Hydref. Mae'r BBC wedi penderfynnu dod a'r rhaglen i ben.
Rŵan does dim un rhaglen ar ôl ar S4C yn arbennig i ddysgwyr.


Dwi'n deall dy rwystredigaeth, ac mae'n bwysig bod rhaglenni yn cael eu darparu ar gyfer dysgwyr, ond onid lle sianeli ITV Cymru a BBC Cymru (1+2) yw darlledu rhaglenni yn benodol ar gyfer dysgwyr yn hytrach na S4C?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: BBC Wales a'r Wythnos

Postiogan Jon Sais » Iau 26 Awst 2010 11:39 am

Efallai, ond swyddogaeth S4C yw bod darlledwr cyhoeddus y tu fewn i Gymru. Ar un adeg roedd'na nifer o raglenni i ddysgwyr ar y sianel (Welsh in a Week, Cariad at yr Iaith, Talk about Welsh) maen nhw i gyd wedi hen mynd, rawn mae'r olaf un wedi mynd hefyd!

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Jon Sais a ddywedodd:Ni fydd Yr Wythnos (Rhaglen Newyddion i ddysgwyr) yn cael eu darlledu eto yn yr Hydref. Mae'r BBC wedi penderfynnu dod a'r rhaglen i ben.
Rŵan does dim un rhaglen ar ôl ar S4C yn arbennig i ddysgwyr.


Dwi'n deall dy rwystredigaeth, ac mae'n bwysig bod rhaglenni yn cael eu darparu ar gyfer dysgwyr, ond onid lle sianeli ITV Cymru a BBC Cymru (1+2) yw darlledu rhaglenni yn benodol ar gyfer dysgwyr yn hytrach na S4C?
Jon Sais
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 39
Ymunwyd: Sul 21 Mai 2006 6:14 pm
Lleoliad: Swydd Derby

Re: BBC Wales a'r Wythnos

Postiogan Rhys » Maw 21 Medi 2010 8:18 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Jon Sais a ddywedodd:Ni fydd Yr Wythnos (Rhaglen Newyddion i ddysgwyr) yn cael eu darlledu eto yn yr Hydref. Mae'r BBC wedi penderfynnu dod a'r rhaglen i ben.
Rŵan does dim un rhaglen ar ôl ar S4C yn arbennig i ddysgwyr.


Dwi'n deall dy rwystredigaeth, ac mae'n bwysig bod rhaglenni yn cael eu darparu ar gyfer dysgwyr, ond onid lle sianeli ITV Cymru a BBC Cymru (1+2) yw darlledu rhaglenni yn benodol ar gyfer dysgwyr yn hytrach na S4C?


Os ti'n dysgu iaith newydd, dy obaith di yn y pendraw yw gallu deall a mwynhau yr arlwy sydd gan gyfryngau yn yr iaith hynny yw cynnig (tydy 'mwynhau', 's4c' a 'radio cymu' ddim yn perthyn i'r un frawddeg wrth gwrs!), felly dylai bod darpariaeth i ddysgwyr ar s4c yn fy marn i. Falle byddai rhaglenni ar gfer dysgwyr pur a phethau fel Welsh in the Week yn addas ar gyfer sianel Saesneg gan y gallant gael eu gywlio heb unrhyw wybodaeth o'r iaith, ond cael pethau fel Yr Wythnos ar S4C er mwyn iddo ddod yn arferiad gwylio rhaglenni ar y sianel - rhyw fath o gateway. Beth oedd yn dda am yr Wythnos oedd, roedd yn raglen gallai siaradwyr rhugl ei wylio hefyd gan ei fod yn rownd-up o'r newyddion ac nid yn wers iaith yn unig.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 27 gwestai