Hedd Gwynfor a ddywedodd:Jon Sais a ddywedodd:Ni fydd Yr Wythnos (Rhaglen Newyddion i ddysgwyr) yn cael eu darlledu eto yn yr Hydref. Mae'r BBC wedi penderfynnu dod a'r rhaglen i ben.
Rŵan does dim un rhaglen ar ôl ar S4C yn arbennig i ddysgwyr.
Dwi'n deall dy rwystredigaeth, ac mae'n bwysig bod rhaglenni yn cael eu darparu ar gyfer dysgwyr, ond onid lle sianeli ITV Cymru a BBC Cymru (1+2) yw darlledu rhaglenni yn benodol ar gyfer dysgwyr yn hytrach na S4C?
Os ti'n dysgu iaith newydd, dy obaith di yn y pendraw yw gallu deall a mwynhau yr arlwy sydd gan gyfryngau yn yr iaith hynny yw cynnig (tydy 'mwynhau', 's4c' a 'radio cymu' ddim yn perthyn i'r un frawddeg wrth gwrs!), felly dylai bod darpariaeth i ddysgwyr ar s4c yn fy marn i. Falle byddai rhaglenni ar gfer dysgwyr pur a phethau fel Welsh in the Week yn addas ar gyfer sianel Saesneg gan y gallant gael eu gywlio heb unrhyw wybodaeth o'r iaith, ond cael pethau fel Yr Wythnos ar S4C er mwyn iddo ddod yn arferiad gwylio rhaglenni ar y sianel - rhyw fath o
gateway. Beth oedd yn dda am yr Wythnos oedd, roedd yn raglen gallai siaradwyr rhugl ei wylio hefyd gan ei fod yn rownd-up o'r newyddion ac nid yn wers iaith yn unig.