Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan Del » Llun 04 Hyd 2010 11:09 am

garynysmon a ddywedodd:
sian a ddywedodd:
garynysmon a ddywedodd:Byddai'n osgoi RC ar y Sul, pan mae'n troi fewn i 'Duw FM'.


Dwi ddim yn meddwl bod hynny cweit yn wir, nag yw?


Bob tro mae o mlaen gen i ar y Sul, mae'n teimlo fod cymanfa ganu neu emyn yn cael ei chwara'.

Rhaid bo ti'n gwrando cyn 8.30 yn y bore, rhwng 12 a 12.30 neu rhwng 4.30 a 5. (Ac ok, falle bod ambell emyn ar Ar eich Cais.) Ond dyw hynny ddim yn over-kill does bosib?
Rhithffurf defnyddiwr
Del
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 89
Ymunwyd: Llun 07 Maw 2005 2:20 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan dil » Llun 04 Hyd 2010 11:42 am

man amhosib creu radio sy'n gweddu i bawb trwyr dydd dydi.
os mai ond un radio cymru sydd y safon uchaf a gwerth diwyllianol ydi'r targed i fod.
siawns bod balchder a teimlad o gyfrifoldeb mewn cyflwyno radio cymru i ni?
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan Duw » Maw 05 Hyd 2010 10:29 pm

Del a ddywedodd:
garynysmon a ddywedodd:
sian ar garynysmon a ddywedodd:"Byddai'n osgoi RC ar y Sul, pan mae'n troi fewn i 'Duw FM'."

> Dwi ddim yn meddwl bod hynny cweit yn wir, nag yw?


Bob tro mae o mlaen gen i ar y Sul, mae'n teimlo fod cymanfa ganu neu emyn yn cael ei chwara'.

Rhaid bo ti'n gwrando cyn 8.30 yn y bore, rhwng 12 a 12.30 neu rhwng 4.30 a 5. (Ac ok, falle bod ambell emyn ar Ar eich Cais.) Ond dyw hynny ddim yn over-kill does bosib?


Hah - trio gweld sawl lefel o ddyfynnu sy'n bosib! Oi Del - ti'n bo'n eironig yma, ie?

O ran 'Duw FM' - dwi'n cytuno 'da garynysmon. ER, roedd gwrando i RC ar ddydd Sul yn gysur mawr i Mamgu oherwydd ei bod yn rhy dost i fynd i'r capel. I mi - pleser oedd dianc allan i'r glaw a chrynu fel chihuahua felly nad oedd yn rhaid i mi wrando i'r stwff. Dwi dal yn teimlo'r r'un fath - er nawr bo gen i reolaeth dros y wireless - 'clic' - 'mlaen â'r CD. Byddai'n diddorol gwybod allan o wrandawyr RC, sawl un sy'n troi bant / osdgoi gwrando ar y Sul a sawl un sy'n tiwno mewn yn bwrpasol i wrando ar emyne. Wylle dyle ffactore masnachol ware rhan yma.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan Manon » Mer 06 Hyd 2010 10:34 am

Ond mae 'na rai pobol sy' isho gwrando ar betha' crefyddol, yn does? Nifer go fawr, 'swn i'n deud. Ac er mai anaml 'dwi'n gwrando ar y rhaglenni yna, 'dwi'n dallt bod rhaid i Radio Cymru eu gneud nhw, achos maen nhw'n gorfod plesio pawb sy'n siarad Cymraeg. Trawsdoriad anferth! 'Dwi'n meddwl eu bod nhw'n gwneud joban dda iawn o hyn. Mae 'na betha' ar RC sy' ddim at fy nant, ond mae 'na betha sydd at fy nant i, ac felly 'dwi'n meddwl eu bod nhw'n llwyddo.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Nôl

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron