Mae'n rhaid cofio hefyd fod rhaid edrych ar y farchnad radio yn gyffredinnol, a'r effaith mae fwy o orsafoedd yn eu gael, y ffordd y mae'r gorsafoedd hynny yn ehangu, ac yr effaith y mae hynna'n ei gael ar y ffordd y mae'r stadegau yn cael eu casglu.
Ie, cytuno - os nac ydy'r dull casglu data yn gyson, 'stim modd cymharu'n deg. Er, mae'r cwymp ers 2004 yn edrych yn arwyddocaol. Mae gostyngiad ar y brigau a'r cafnau. A ydy'r orsaf yn dadlau llwyddiant o ran y ddarpariaeth gyda gostyniadau cyson, neu ydyn nhw'n beio patrwm diwydiant cyffredinol, neu ydyn nhw'n cwympo ar eu beiau. Amser am shiglad?
Ger llaw, gwrando i RC neithiwr - nifer fawr o'r caneuon wedi cael eu chwarae'n gynta dros 2 blynedd yn ol. Old favourites gan bobol fel Daniel Lloyd (nid beirniadu'r gân). Blydi Geraint Lloyd yn malu cachu gyda ffermwyr yn gyrru tractors Ford lawr yn Nghwmddu. Eto, dim byd yn erbyn ffermwyr na'r ardal, ond bois bach, be ddiawl ydy pobol ifanc yn becso am ryw fachan 80 yn gyrru tractor? Bydde fe'n ddoniol os nac oedd mor ddifrifol.
Ai dyma'r gorau mae bosys RC yn gallu dod lan ag e? Ishe gwaed ffres wylle. Mae'n nhw'n trio gwneud plesio pawb ond dyw e ddim yn gweithio. Trueni mawr stim RC1, RC2, RC3.