Peryg fod S4C wedi dwyn sylw pawb dros yr Hâf, a chyddio problemau enbyd Radio Cymru. Yn ôl y sôn, 'roedd ffigurau gwrando'r orsaf ( gafodd eu cyhoeddi i staff uchel yr orsaf) yn drychunebus yn ystod dechrau'r flwyddyn. Wrth gwrs mae'n amhosib barnu,dadansoddi na beirniadu gan fod neb yn cael gwybod na gweld rhain ( ar wahan i staff uchel yr orsaf)
Beth sydd gyda chi i guddio Radio Cymru ? Ydych chi'n llwyddo i ennill a chadw cynulleidfa ? Ydy cyfartaledd oedran eich gwrandawyr yn codi neu gostwng ? Ydy'ch cyflwynwyr yn ennill tir o ran gwrandawyr? Ydych chi'n llwyddo i gynnig y gwasanaeth gorau phosib i'ch cynulleidfa ?
Cwestiynnau digon têg, yn arbennig gan gofio fod yr orsaf yn cael ei ariannu gan bawb sydd yn talu trwydded teledu. Chi'n atebol Radio Cymru. Amser stopio cuddio tu ôl rhyw len ffug a datgelu'r gwirionedd.
Oes unrhywun yn gwybod pa rhaglenni sydd yn boblogaidd ? Oes unrhywun yn gwybod pa gyflwynwyr sydd yn boblogaidd ? Dim barn personol plîs, ffigurau a ffeithiau sydd angen yma er mwyn ceisio torri trwy'r wal o ddistawrwydd 'does dim hawl ganddynt fwynhau.