Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan garynysmon » Mer 22 Medi 2010 11:33 pm

Wnath Jonsi dreulio 10 munud dda heddiw yn trosi llythyr o'r Saesneg yn trio esbonio fod scam yn mynd ymlaen i gwsmeriaid BT roi eu rhifau cerdyn credyd.

Radio da.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan C++ » Iau 23 Medi 2010 1:19 am

Dolen i'r awdio plis. Neu digwyddodd e ddim.
C++
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 29
Ymunwyd: Iau 08 Rhag 2011 10:41 pm

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan tom.j » Gwe 24 Medi 2010 12:38 am

Mae gan yr orsaf nifer o rhaglenni da....wel ambell un. Mae Daf Du yn y bore yn fywiog ac yn hwyliog ond plis dewch ag Eleri Sion nol cyn bo hir...Caryl yn anffodus yn hoff o glywed llais ei hun a ddim mor ffraeth ag Eleri! Ma pethe'n mynd 'down hill' wedyn gyda Nia 'Dylyfu Gen' Roberts. Dwi'n eitha hoff o Jonsi - ond dwi yn cytuno ei fod e'n malu cachu yn aml and er hyn smo fe'n malu cachu gymaint a chyfranwyr Taro'r Post! Geraint Lloyd yn rhy blwyfol - falle se'n well se fe di stico gyda Radio Ceredigion. Felly i fod yn onest yr unig un dwi wir yn hoff ohoni yw'r rhaglen foreuol gyda Daf ac Eleri - sgwrsio difyr a chaneuon difyr hefyd. A phan ddaw hi at y nos - wel sori sneb yn ty ni yn gwrando ar y radio wedi 6 o'r gloch!!
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan Khmer » Sul 03 Hyd 2010 9:24 am

"Un peth diddorol iawn am Radio Cymru yw'r math o gerddoriaeth sy'n cael ei chwarae.
Yr un math o gerddoriaeth sy'n cael ei chwarae trwy'r amser - fe wnaeth Arfon Gwilym arolwg ar hyd un diwrnod cyfan ac roedd y canlyniadauyn ddadlennol.

- lle ma Nia Medi, Georgia Ruth Williams ac Elen Gwynne yn y rhestr ma ta?
Khmer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Mer 29 Medi 2010 12:42 pm

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan Duw » Sul 03 Hyd 2010 7:26 pm

Khmer a ddywedodd:"Un peth diddorol iawn am Radio Cymru yw'r math o gerddoriaeth sy'n cael ei chwarae.
Yr un math o gerddoriaeth sy'n cael ei chwarae trwy'r amser - fe wnaeth Arfon Gwilym arolwg ar hyd un diwrnod cyfan ac roedd y canlyniadauyn ddadlennol.

- lle ma Nia Medi, Georgia Ruth Williams ac Elen Gwynne yn y rhestr ma ta?


Anghytuno. Troies i RC mlaen bore ma - blydi emyne. Neiff hwnna dynnu'r gwrandawyr ifainc mewn! Genius! :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan Del » Llun 04 Hyd 2010 9:29 am

Duw a ddywedodd:Troies i RC mlaen bore ma - blydi emyne. Neiff hwnna dynnu'r gwrandawyr ifainc mewn! Genius! :rolio:

Sai'n credu all neb warafun rhyw ddwyawr o emynau neu stwff 'crefyddol' ar ddydd *Sul*, glei! (Caniadaeth y Cysegr x2, Bwrw Golwg, Oedfa'r Bore, Dal i Gredu.)
Golygwyd diwethaf gan Del ar Llun 04 Hyd 2010 10:12 am, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Del
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 89
Ymunwyd: Llun 07 Maw 2005 2:20 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan garynysmon » Llun 04 Hyd 2010 10:11 am

Byddai'n osgoi RC ar y Sul, pan mae'n troi fewn i 'Duw FM'.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan sian » Llun 04 Hyd 2010 10:39 am

garynysmon a ddywedodd:Byddai'n osgoi RC ar y Sul, pan mae'n troi fewn i 'Duw FM'.


Dwi ddim yn meddwl bod hynny cweit yn wir, nag yw?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan dil » Llun 04 Hyd 2010 10:48 am

man amlwg fod anghen 2 radio i gymru ond tan ma' hynu yn digwydd man annodd plesio pawb dydi.
ond
fysen ddiddorol gwybod sut ma' cerddoriaeth a eitemau yn cael ei dewis i ragleni.
dwin meddwl fod gan s4c a radio cymru gyfrifoldeb i chware cerddoriaeth syn adlewyrchu beth syn mynd
ymlaen yn fyw yn gymru trwy gydol y dydd.ma lot o gerddorion wedi dallt hi yn amlwg be geith i chware ar radio.
a does dim anghen i nhw ymdrechu chware rhan mewn diwylliant cerddorol byw cymru.a ma radio cymru yn ok fo hune yn amlwg. ma c2 yn bangor yn trio dwin meddwl ond pam fod hynu ddim yn bolosi radio cymru?
mi oedd rhagleni bore sadwrn yn y 90au yn wych i gyflwyno cerddoriaeth newydd i bobl ac yn
gwneud cysylltiad amlwg rhwyn be syn digwydd ogwmpas lle a radio cymru.
dwin ame fod hi ddim yn realistic disgwyl i bobl yn gyffredinol wrando ar radio ar ol 9 ne 10 yn nos i allu
clywed cerddoriaeth newydd a be gig sy'n digwydd a pwy syn rhyddhau be.
fyse 2 awr ar ddydd sadwrn rhwyn 10 a 12 yb yn berffeth a rhoi ymgaig wirioneddol i wneud on
bosib i rwyn fwynhau.
ma gwrando ar jonsi wedi mynd yn amhosib.man swnio yn bored i hun.
dwin yn gwbod lle i ddechre deud pob dim i fod yn onest.
ond fysen dda dechre fo bore sadwrn,huw evans ne rwyn felne a cerddoriaeth byw y penwsos.
di hune ddim yn amleg i bawb?
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan garynysmon » Llun 04 Hyd 2010 10:57 am

sian a ddywedodd:
garynysmon a ddywedodd:Byddai'n osgoi RC ar y Sul, pan mae'n troi fewn i 'Duw FM'.


Dwi ddim yn meddwl bod hynny cweit yn wir, nag yw?


Bob tro mae o mlaen gen i ar y Sul, mae'n teimlo fod cymanfa ganu neu emyn yn cael ei chwara'.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai

cron