Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan sian » Iau 09 Medi 2010 12:06 pm

Ydw i'n iawn i ddweud bod lot fawr iawn o recordiau o'r 70au a'r 80au yn cael eu chwarae ar Radio Cymru - yn ystod y dydd, beth bynnag?
Newydd glywed Siampŵ gan Bando cyn Taro'r Post.
Ai achos oedran y gynulleidfa neu achos mai dyma'r bobl mae'r cynhyrchwyr/cyflwynwyr yn eu nabod?
Dydi hyn ddim i'w weld yn deg iawn â'r rhai sy'n treio torri trwodd a gwneud rhywbeth cyffrous.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan Josgin » Iau 09 Medi 2010 12:22 pm

Yn aml iawn , y cyflwynwyr a wnaeth y record !
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan anffodus » Iau 09 Medi 2010 3:47 pm

Duw a ddywedodd:Ger llaw, gwrando i RC neithiwr - nifer fawr o'r caneuon wedi cael eu chwarae'n gynta dros 2 blynedd yn ol. Old favourites gan bobol fel Daniel Lloyd (nid beirniadu'r gân). Blydi Geraint Lloyd yn malu cachu gyda ffermwyr yn gyrru tractors Ford lawr yn Nghwmddu. Eto, dim byd yn erbyn ffermwyr na'r ardal, ond bois bach, be ddiawl ydy pobol ifanc yn becso am ryw fachan 80 yn gyrru tractor? Bydde fe'n ddoniol os nac oedd mor ddifrifol. :ing:


deud y gwir, dio'm otsh gin i pa ganeuon ma nhw'n u chwara cyn bellad eu bod nhw'n rhai da. ar hyn o bryd ma'r rhan fwya o'r holl ganeuon cymraeg ma nhw'n u chwara'n ddi-ddrwg, ddi-dda ar y gora.

fedrai jyst ddim gwrando ar geraint lloyd. gin i ryw sofft-spot at jonsi ond na phoener, dwi wedi trefnu apointment efo'r therapydd. ond be sy'n y ngwylltio i'n arbennig ydi bod y cyfweliada ma nhw'n neud (efo unrhywun) yn mynd ymlaen ag ymlaen am ormod. dwi di dechra gwrando ar radio2 yn ddiweddar a ma'r cyfweliada i gyd yn ddifyr, yn cadw diddordab pobl ond yn fyr ofnadwy - rhy fyr mewn rhei achosion ond ma nhw'n cal eu torri yn eu blas yn lle bod rhywun yn newid yr orsaf wrth ddisgwl i mrs jones llanrug orffan disgrifio'i faricos fêns fel sy'n digwydd ar jonsi.
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan sian » Iau 09 Medi 2010 3:54 pm

anffodus a ddywedodd:fedrai jyst ddim gwrando ar geraint lloyd.


Ro'n i'n arfer teimlo felna am Geraint Lloyd ond, ar ôl i dri o bobl mae gen i dipyn o barch at eu barn nhw ei ganmol e, dw i wedi gwrando unwaith neu ddwy ac rwy'n gweld beth sy ganddyn nhw. Mae e'n nabod ei gynulleidfa. Dyw e'n dal ddim yn apelio ata i chwaith.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan Duw » Iau 09 Medi 2010 6:13 pm

Geraint Lloyd - dyn y gwerin - cytuno. Mae ganddo ddawn arbennig wrth gyfweld. Trafferth yw, ychydig o bobol sydd â diddordeb yn y materion plwyfol hyn, yn fy marn i. Mae gan Jownsee (gâs 'da fi'r bachan) ddawn arbennig gyda phlant a hen bobol. Ond fel chi'n dweud, mae'r cyfweliade'n mynd mlaen a mlaen. Mae gradd mewn malu cachu 'da'r bois 'ma - dwi'n gorfod troi'r sianel neu gosod y CD ymlaen ar ôl gwrando iddyn nhw am gwpwl a funudau neu byddai road rage yn cael y gore ohonof fi. A phaid â dechrau am y polisi dwl 'na o ware un yn y Saesneg, un yn y Gymraeg ...
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan tom.j » Gwe 10 Medi 2010 12:07 am

A oes yna fai ar y cwmniau recordiau am beidio a chynhyrchu digon o recordiau Cymraeg? Ma nifer o'r cwmniau mwya fel Sain a Fflach ond yn cynhyrchu Cd's ar gyfer yr Eisteddfod a Nadolig - ma recordiau Saesneg yn cael eu cynhyrchu mwy neu lai yn ddyddiol. Meddwl ydw i tase mwy o recordiau Cymraeg yn cael eu cynhyrchu byse dim rhaid clywed yr un hen ganeuon dro ar ol tro.
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan Gorwel Roberts » Gwe 10 Medi 2010 8:09 am

Does gen i ddim byd yn erbyn caneuon da o ba bynnag gyfnod maen nhw'n dod ac mae'n iawn cael clywed rhaio'r pethau gorau o'r gorffennol ond mae'r ailadrodd pahaus ar ddyrnaid o ganeuon ar Radio Cymru'n gwneud i'r orsaf swnio'n farwaidd. Gallet ti droi'r radio ymlaen a chlywed yr un un gan yn y bore, dros ginio, yn y prymnhawn, gyda'r nos ac yn y nos.
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan zorro » Llun 13 Medi 2010 10:49 pm

Ffyc in Hell !!!

Chi'n ceisio dechrau dadl gall yn tynnu sylw ar y ffaith bod Radio Cymru, fel S4C yn cael ei gam reoli ac yn tan berfformio a methu a chyrraedd ei gynulleidfa o ganlyniad : a beth sy'n digwydd ? Mae'r ffycin muzo's yn dechrau rhygnu ymlaen a'r dôn gron fod ddim digon o'u crap ceiniog a dime nhw'n cael ei chwarae ar yr orsaf. Nid y ffaith fod grŵp o ffycin ego maniacs o back of beyond ddim yn cael eu clywed ar yr orsaf sydd yn golygu bod pobl yn troi i ffwrdd, neu byth hyd yn oed yn ystyried troi'r orsf ymlaen yn y lle cyntaf. Mae diffyg dychymig, diffyg ymroddiad a diffyg talent yn ffactorau llawer mwy pwysig. Sticiwch i'r ffycin pwynt a hwpwch eich blydi trendy crap cerddorol lan eich tinau !!!!

Sori, ond ddim yn teimlo'r arbennig o amyneddgar heno. :ing: :ofn:
zorro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2009 11:23 pm

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan Duw » Mer 15 Medi 2010 12:03 am

OK zorro. Diolch am ymddiheuro. I ateb dy bwynt ar ol ei ddyrannu rhwng yr holl rhegu 'na - y pwynt yw dyfodol RC. Y ffactor mwyaf weden i yw nifer y gwrandawyr. Os nac ydy RC yn bodloni'r cyhoedd gyda'u gwledd presennol, mae'n amlwg bo rhywbeth o le. Felly, lan i bostwyr gynnig beth sydd o le a pha bethau a all wella'r sefyllfa yn eu tyb nhw.

Wedi'r cyfan, fforwm drafod yw hwn - mae ambell rant yn iawn - neu byddwn inne wedi cael fy ngwahardd sbel yn ol - ond mae sens o bwyta potsh acha rhaw. :rolio:

Wylle bo ti'n gywir o ran cerddoriaeth o safon wael. Wylle na. Ar hyn o bryd, dyw'r cyhoedd ddim yn cael y cyfle i wrando ar lawer o gerddoriaeth Cymraeg cyfoes. Er ei fod y miwsig wnes i dyfu lan gydag e, mae person yn diflasu o Edward H. ar ôl sbel.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Beth yw dyfodol Radio Cymru ?

Postiogan zorro » Mer 22 Medi 2010 11:11 pm

Iawn felly !

Dychmygwch hyn. Dafydd a Caryl. Cerddoriaeth tebyg i pob un rhaglen ar RC. Ond ffraethineb a dychymig. Felly 'rwy'n ffeinjio'n hun yn troi ymlaen yn amlach

Jonsi. Troi ymlaen, gwrando am rhyw funud neu ddwy. Gweiddi ar y radio cyn troi i Steve Wright ar Radio 2.

Nid yw polisi cerddorol na;r gerddoriaeth yn hynod wahanol rhwng y 2 rhaglen. Y gwahaniaeth yw sut mae nhw'n cael eu cyflwyno.
:ofn:
zorro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2009 11:23 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Majestic-12 [Bot] a 7 gwestai

cron