gan Cardi Bach » Iau 09 Ion 2003 10:54 am
Wy'n cytuno, odd y rhaglen braidd yn ysgafn - ond wei gweud hynny, ro'n i'n ddigon ffodus i fod wedi astudio hanes yr iaith (yn elfennol) ar gyfer lefel A a TGAU yn ystod dyddiau ysgol - ond rodd y rhaglen yma wedi ei hanelu at bobl efallai nad oedd wedi cael yr un cyfleon a finne, a'i rhoi mewn arddull a iaith fyddai'n ddealladwy i bawb.
mae hynny wrth gwrs iw ganmol. Dim ond trwy ddeall cefndir a hanes rhywbeth y gallwn ni roi beirniadaeth llawn o rywbeth - ac ma gormod o bobl sydd wedi cyfrannu at y ddadl iaith dim ond yn gweld yr 'here and now' ac wrth gwrs i nifer sy'n edrych ar y byd felly dyw iaith wahanol ai dyfodol yn golygu ffec ol.
Ond wy ddim mor siwr os ydw i'n cytuno gyda ti Nic am gyflwyniad Huw. Yn un peth mae ei dad, Hywel Teifi Edwards yn arbennigwr ar yr iaith a'i hanes, a bydden i'n tybio ei fod e wedi taro golwg ar y script a chynnwys y gyfres cyn ei darlledu - ac os oes rhywun fyddai'n gallu gweld gwendid mewn trafodaeth am yr iaith yna Hywel teifi fyddai hwnnw. Y gwir yw nad oes yna bendantrwydd 100%mae am ochrau de'r Alban y mae'r Gododdin yn ymdrin - er ei fod yn dra debygol. Wedi dweud hynny, wy'n credu ei fod yn cael ei dderbyn yn gyffredinol ymhlith yr ysgolheigion taw dyna'r ardal...ond nid ysgolhaig ar y pwnc ydw i o bell ffordd - efallai y gall y rhai hynny ohonoch sydd a gradd yn y Gymraeg neu Astudiaethau Celtaidd daflu rhywfaint o oleunu ar hyn.
Hefyd mae ond yn naturiol y byddai'r rhaglen gyntaf yn 'ysgafn' gan fod cyn lleied o lenyddiaeth ar gael o'r 'oesoed tywyll' - wedi'r cwbwl dyna pam yr ydym ni'n cyfeirio at y cyfnod fel 'oesoedd tywyll' am nad oes llawer o dystiolaeth cadarnhaol ar gael i daflu golau ar yr amseroedd -gallwch chi fod yn sicr yr eith y rhaglen dipyn yn fwy manwl wrth i ni gyrraedd William Morgan ac y ddiweddarach y llyfrau gleision.
Yr unig gwyn penodol sydd da fi yw fod gormod o shots o'r mercedes yn teithio ar hyd y draffordd yn ddi-angen - gellir fod wedi meddwl am rywbeth ychydig yn fwy gwreiddiol i gyfleu taith.