Hedd Gwynfor a ddywedodd:Does dim rhaid i'r gwrthdaro 'ma rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth fodoli. Does dim pob 'gwyddonydd' yn eithafol wrth-Gristnogol fel Dawkins. Gweler y wefan yma er enghraifft - http://www.cis.org.uk/The common misperception that there is always conflict between science and faith can be abused by those with anti-Christian or anti-science agendas. In reality science has always been the domain of many committed Christians
Mae'n ddiddorol ystyried bod rhwydwaith fel y CIS yn bodoli. Rwy'n siŵr bod sawl gwyddonydd Cristnogol a rwy'n sicr nad yw pob Cristion yn casáu gwyddoniaeth, ond yn y pen draw mae rhaid dewis un dros y llall. Mae nhw yna " To develop and promote biblical Christian views on the nature, scope and limitations of science." Nid credu yn y ddau yw hynny, ond credu mewn un a defnyddio'r llall hyd y gallen nhw.
Rwy'n methu'n lan a deall sut gall y ddau gyd fyw. Hyd y gwela' i, mi fydd Crefydd yn parhau i hawlio darganfyddiadau gwyddoniaeth fel rhai duwiol tan ddiwedd y byd(!) Bob tro mae gwyddonydd yn gwneud darganfyddiad newydd, mi fydd Crefyddwr o rhyw liw neu lun yn syth y tu ôl iddo yn esbonio pam mae hyn yn gwneud duw cymaint yn wychach nac erioed.