Cyfres Richard Dawkins ar More 4

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cyfres Richard Dawkins ar More 4

Postiogan Dafad∙Ddall » Iau 02 Medi 2010 7:16 pm

Yn yr unig raglen rwy wedi gwylio, gofynnodd Dawkins i athrawes Fwslimaidd esbonio esblygiad i un o'i disgyblion. Buasai ei diffyg gwybodaeth yn chwerthinllyd, petai ddim mor erchyll i feddwl bod hi i yna i addysgu plant am wyddoniaeth. Gwyliwch o 22:30 ymlaen.

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Does dim rhaid i'r gwrthdaro 'ma rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth fodoli. Does dim pob 'gwyddonydd' yn eithafol wrth-Gristnogol fel Dawkins. Gweler y wefan yma er enghraifft - http://www.cis.org.uk/

The common misperception that there is always conflict between science and faith can be abused by those with anti-Christian or anti-science agendas. In reality science has always been the domain of many committed Christians


Mae'n ddiddorol ystyried bod rhwydwaith fel y CIS yn bodoli. Rwy'n siŵr bod sawl gwyddonydd Cristnogol a rwy'n sicr nad yw pob Cristion yn casáu gwyddoniaeth, ond yn y pen draw mae rhaid dewis un dros y llall. Mae nhw yna " To develop and promote biblical Christian views on the nature, scope and limitations of science." Nid credu yn y ddau yw hynny, ond credu mewn un a defnyddio'r llall hyd y gallen nhw.

Rwy'n methu'n lan a deall sut gall y ddau gyd fyw. Hyd y gwela' i, mi fydd Crefydd yn parhau i hawlio darganfyddiadau gwyddoniaeth fel rhai duwiol tan ddiwedd y byd(!) Bob tro mae gwyddonydd yn gwneud darganfyddiad newydd, mi fydd Crefyddwr o rhyw liw neu lun yn syth y tu ôl iddo yn esbonio pam mae hyn yn gwneud duw cymaint yn wychach nac erioed.
Dafad∙Ddall
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Llun 31 Awst 2009 7:43 pm
Lleoliad: Norwich

Re: Cyfres Richard Dawkins ar More 4

Postiogan Duw » Iau 02 Medi 2010 9:55 pm

Wir i wala Daf. Er, mae'n rhaid cofio'r holl waith a gafodd ei noddi trwy fudiadau crefyddol - Islam yn arbennig. Yn anffodus, mae'r 'sail' pob amser wedi bod lawr i wyrthwch Duw. Mae'r ffordd mae crefyddwyr cyfoes yn troi gwyddoniaeth yn gwneud i mi dagu.

Oherwydd bod crefydd yn dibynnu ar ffydd - dylen nhw adael gwyddoniaeth i fod a stopio ceisio rhesymoli'r crefydd. Dyw crefydd ddim yn rhesymegol. Syniadau heb sail a thystiolaeth ydyn nhw - dyna'r cyfan y gallan nhw fod. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cyfres Richard Dawkins ar More 4

Postiogan ceribethlem » Gwe 03 Medi 2010 4:02 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Trafodaeth awr gyfan difyr iawn ar Taro'r Post heddiw ar yr union bwnc yma. Lot o gyfranwyr da iawn ar y ddwy ochr - http://www.bbc.co.uk/iplayer/cy/episode/b00tl8xw (cychwyn 4:05)

Lot o gyfranwyr da iawn? Ychydig o gyfranwyr da, ac ambell i ffycwit o'r radd eithaf. Rhyw fenyw (i arall eirio) oedd yn dweud "Dwi'n deall dim, ond rhaid bod e'n anghywir. Dwi'n credu mewn Duw, a Duw gwnaeth popeth." A fy ffefryn i o'r hanner can munud rhyw ionc o Ogledd Cymrud ddywedodd (eto i arall eirio) "Dwi'm yn perthyn i mwnci de. Be mae'n nhw ceisio'i ddeud? Pobl du yn dod o gorilla, pobl gwyn yn dod o tsimpansi a pobl melyn yn dod o OranWtan?" Nid yn unig yn hynod o anwybodus, ond yn hiliol hefyd :rolio:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cyfres Richard Dawkins ar More 4

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 04 Medi 2010 3:39 pm

Dau gyfrannwr gwael iawn, ond roedd y gwesteion gaeth eu gahodd yn dda iawn yn fy marn bach i...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cyfres Richard Dawkins ar More 4

Postiogan Duw » Sad 04 Medi 2010 7:55 pm

Oes pwynt i ddadlau o'r math, neu ydy'n gwastraff amser? Ydyn ni mewn brwydr dragwyddol am 'eneidiau' bodau dynol? Anffydwyr vs. Credinwyr. Ding ding, seconds out! Ymladd dros y rheiny sydd heb syniad yw pwrpas hyn? Ydy credinwyr am drosi cymaint ag y gallan nhw er mwyn lledu eu powerbase ac ydy credinwyr yn mynd ati i atal mwy o'n rhywogaeth i gwympo o dan gysgod tywyll rhyw waredwr bach llechwraidd?

Oes y Goleuedigaeth? Mae pobol mor ofergoelus ag erioed. Ein Ffolineb a'n tynged. Gwnaiff atal ein potensial a'n damnio i gyffredinedd. :( O leiaf, mae'n rhoi rhyw gysur oer i mi weld y capeli'n cau.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Nôl

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai

cron