Cyfres Richard Dawkins ar More 4

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyfres Richard Dawkins ar More 4

Postiogan ceribethlem » Iau 26 Awst 2010 12:04 am

Oes unrhywun wedi bod yn gwylio cyfres Dawkins ar More 4?
'Wy'n credu fod dau wedi bod hyd yn hyn (am wn i y ddau ar gael i'w gweld ar y wefan). Hynod o ddiddorol.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cyfres Richard Dawkins ar More 4

Postiogan anffodus » Llun 30 Awst 2010 11:52 pm

Welish i 'The God Delusion' ag o'dd o'n wych. Profi'i bwynt o'n llwyr. Yr unig feirniadaeth o'dd gin i o'dd bod Dawkins yn swnio chydig yn rhy offensive a fel tasa gynno fo chip ar ei ysgwydd mewn rhai rhanna yn hytrach na gofyn cwestiyna' mwy diniwad a gadal i'r bobl o'dd o'n eu holi ddatgelu'u gwallgofrwydd eu hunan.
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Re: Cyfres Richard Dawkins ar More 4

Postiogan ceribethlem » Maw 31 Awst 2010 2:18 am

anffodus a ddywedodd:Welish i 'The God Delusion' ag o'dd o'n wych. Profi'i bwynt o'n llwyr. Yr unig feirniadaeth o'dd gin i o'dd bod Dawkins yn swnio chydig yn rhy offensive a fel tasa gynno fo chip ar ei ysgwydd mewn rhai rhanna yn hytrach na gofyn cwestiyna' mwy diniwad a gadal i'r bobl o'dd o'n eu holi ddatgelu'u gwallgofrwydd eu hunan.

Fi'n cytuno fod gyda chip ar ei ysgwydd; ond fi'n credu fod y peth yn rhannol oherwydd fod pobl yn ceisio dysgu doctrine yn hytrach na'r dull gwyddonol er mwyn egluro gwyddoniaeth, fel rhyw ateb hudol (fel gwelwyd mewn ambell gyfweliad).
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cyfres Richard Dawkins ar More 4

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 31 Awst 2010 6:21 pm

Ro'n i ddim yn meddwl rhyw lawer o'r rhaglen weles i :? Rodd yn amlwg ei fod wedi mynd ar ôl y Cristion mwyaf 'nyts' a phosib i geisio profi ei bwynt bod pob Cristion yn wallgof. Sglodyn anferth ar ei ysgwydd. Os nad yw'n credu, pam fod gyda fe cymaint o ddiddordeb yn y pwnc?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cyfres Richard Dawkins ar More 4

Postiogan Duw » Maw 31 Awst 2010 7:15 pm

Dwi cofio Dawkins o flynedde yn ol a ro'n i'n ei gymryd fel arwr. Yn anffodus, mae e wedi colli'r plot - ond mae e'n mynd â mi gydag e. Dwi'n ffindo'n hunan yn colli amynedd yn llwyr gydag unrhyw beth i wneud â chrefydd. Bai ar Dduw am gymryd f'enw mewn ofer!
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cyfres Richard Dawkins ar More 4

Postiogan Barry » Maw 31 Awst 2010 7:46 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Os nad yw'n credu, pam fod gyda fe cymaint o ddiddordeb yn y pwnc?

Mae Dawkins yn fiolegydd esblygol, felly mae e wedi cael lot o drafferth gyda Christnogion sy'n credu mewn creadaeth ac yn anwybyddu'r ffeithiau gwyddonol yn llwyr.
Barry
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Iau 10 Rhag 2009 5:05 pm
Lleoliad: Pontllanfraith

Re: Cyfres Richard Dawkins ar More 4

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 31 Awst 2010 8:01 pm

Does dim rhaid i'r gwrthdaro 'ma rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth fodoli. Does dim pob 'gwyddonydd' yn eithafol wrth-Gristnogol fel Dawkins. Gweler y wefan yma er enghraifft - http://www.cis.org.uk/

The common misperception that there is always conflict between science and faith can be abused by those with anti-Christian or anti-science agendas. In reality science has always been the domain of many committed Christians
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cyfres Richard Dawkins ar More 4

Postiogan huwwaters » Maw 31 Awst 2010 9:46 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Does dim rhaid i'r gwrthdaro 'ma rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth fodoli. Does dim pob 'gwyddonydd' yn eithafol wrth-Gristnogol fel Dawkins. Gweler y wefan yma er enghraifft - http://www.cis.org.uk/

The common misperception that there is always conflict between science and faith can be abused by those with anti-Christian or anti-science agendas. In reality science has always been the domain of many committed Christians


Nagoes, ond mae'r gwrthdaro fel arfer yn digwydd pan fo rhywun yn awgrymu dylai crefydd cael ei ddysgu fel gwyddor mewn gwersi gwyddoniaeth. I.e. bod crefydd yn llwyddo gyda gwneud hypothesis, casglu data mewn dull o arbrawf teg gyda thystiolaeth concrit, sydd wedyn yn cytuno/anghyto gyda'r hypothesis.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Cyfres Richard Dawkins ar More 4

Postiogan Duw » Maw 31 Awst 2010 9:59 pm

Diddorol. Dwi wastod wedi wyndran sut all Cristnogs fod yn wyddonwyr, gyda'r holl faes yn dibynnu ar fodelau a thystiolaeth. Yna mae eu crefydd yn dibynnu ar ffydd - y gwrthwyneb i bopeth gwyddonol. Un rheol i bron popeth a rheol arall i'r crefydd? Eniwei - c'mon mwy o frwydro a choethan - ar ol canrifoedd o gael Cristnogaeth wedi'i stwffo lawr ein llyncie, amser i dalu'r pwyth yn ol! :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cyfres Richard Dawkins ar More 4

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 02 Medi 2010 6:43 pm

Trafodaeth awr gyfan difyr iawn ar Taro'r Post heddiw ar yr union bwnc yma. Lot o gyfranwyr da iawn ar y ddwy ochr - http://www.bbc.co.uk/iplayer/cy/episode/b00tl8xw (cychwyn 4:05)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Nesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Majestic-12 [Bot] a 9 gwestai

cron