Tudalen 1 o 1

Arwel Ellis Owen yn dweud celwydd ar Radio 4!

PostioPostiwyd: Sad 28 Awst 2010 12:40 pm
gan Krankski coch
Welodd rywun hwn?

http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters ... /s4cv.html

Wel am idiot.

ma na linc i'r eitem ar radio 4 ar waelod y dudalen, bendant werth gwrandawiad os dachi ffansi chuckle!

Re: Arwel Ellis Owen yn dweud celwydd ar Radio 4!

PostioPostiwyd: Llun 13 Medi 2010 10:59 pm
gan zorro
Os chi mewn twll, dewch allan ohono !!

Peidiwch dal i balu !!

Re: Arwel Ellis Owen yn dweud celwydd ar Radio 4!

PostioPostiwyd: Sad 25 Medi 2010 4:07 am
gan Llygad Llo Mawr
Wele'r hyn gewch chi os ewch chi ar wefan Cambrensis - aka S4C - y dyddiau yma:

Yma yn cambrensis, rydym yn credu'n gryf yng ngrym cyfathrebu.


Mae ein hoff sianel, fel y gwyr pawb ond y cibddall, wedi hen anghofio sut i gyfathrebu - yn enwedig efo'r rheini sydd i fod i gyfri, sef y cyhoedd - ond gan fod giaffar y ffyrm cysylltiadau cyhoeddus byd-enwog 'ma bellach wrth y llyw yn S4C, amser yn unig a ddengys ...

Peidiwch a disgwyl gwyrthiau, da chi. Cofiwch bod y mwyafrif llethol o'r rheini sydd wedi cyrraedd y brig yn S4C wedi cael eu hyfforddi yn ffyrdd amheus y Birtist Broadcasting Corporation, a chan mai twyll a chelwydd ydi bara menyn y Birtists, wel anodd iawn ydi "tynnu cast o hen geffyl". Yn bersonol, d'oes gen i ddim pwt o ffydd yn yr un ohonyn nhw.

"Cana di gan fwyn i'th nain, fe gan dy nain i tithau" ydi hi wedi bod ym myd y cyfrwng-gobois bondigrybwyll 'ma ers y dyddiau cynta' o'r bron, ond o leia' mi'r oedd rhywun yn teimlo bod yna rhyw fymryn o hygrydedd personol yn perthyn i'r rhai oedd wrth y llyw bryd hynny. Y dyddiau yma fyddwn i ddim yn prynu moto ail-law gan yr un o'r tacla' di-egwyddor.

Ta waeth am betha' felly, sut ddiawl ma' dwad o hyd i do bach ar y blydi peth 'ma?