Tudalen 1 o 4

Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Mer 01 Medi 2010 10:49 am
gan Doctor Sanchez
Mae'r rip off gwaethaf bosib o 'Early Doors' yn ei ol am DRYDEDD cyfres. Ydi'r pobl sy'n comisiynnu rhaglenni fel hon a Man Del yn actiwali darllen y sgripts? :rolio:

Nesh i chwerthin fwy wrth sbio ar Schindlers List na nesh i ar hwn

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Mer 01 Medi 2010 2:57 pm
gan Josgin
Mae nhw'n eu darllen wrth rannu peint neu gwely hefo'r person sydd wedi sgwennu nhw . Dyna'r ffordd mae S4C yn gweithio.

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Iau 02 Medi 2010 1:48 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Dylai un o blebs S4C jesd cerdded i mewn i dafarn ble y gellir clywed y Gymraeg yn cael ei siarad yn naturiol efo camcorder ac wedyn jesd darlledu hyn ar S4Cheque- saff Dduw o fod llawer difyrach!!
Joc o raglen- ond dim ffaffun jocs ynddi hi!
Mae Phil Taylor wedi chwarae mewn exhibition mewn sawl tafarn yng Nghymru. Darlledwch hyn y ffycars! :D

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Iau 02 Medi 2010 1:53 pm
gan Darth Sgonsan
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Joc o raglen- ond dim ffaffun jocs ynddi hi!


oedd y joc bod gyno nhw sosijis yn Sbaen yn un fach dda

lot gwell nag oedd o ar y cychwyn

cymeriad y bwtsiar - Meic Parry Talcan Calad - doniol a trw tw leiff

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Iau 02 Medi 2010 2:03 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
O Bryn Fon (Tecs) i...
O Llion Williams (George) i boi Traffic Warden...
Gwastraff talent dau actor da. Sgript gachu rwtsh. Trychinebus. Argyfwng ffigyrau gwylio...Wnai i byth watshad y cachu sailej yma eto.

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Iau 02 Medi 2010 4:49 pm
gan dafydd
Tro cynta i fi wylio y 'comedi' yma a'r tro ola o bosib. Mae gormod o gymeriadau a dim digon o wahaniaeth rhyngddyn nhw. Mae bron pawb yn actio mewn dull 'theatr' a ddim mewn ffordd naturiol.

Yr unig beth wnes i chwerthin arno oedd Iolo (Rhys ap Trefor). Ydi mae'n hawdd chwerthin ar gymeriad twp ond nid dyna oedd yn ddoniol ond dawn yr actor a 'timing'. Wnes i ddim chwerthin ar ddim byd arall.

Ydi e dal i gael ei ffilmio yn fuan cyn darlledu ac ydyn ni fod yn impressed? Fase well os oedden nhw'n gwario amser ar gael sgript ddifyr yn lle taflu'r peth at ei gilydd.

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Iau 02 Medi 2010 6:47 pm
gan Hedd Gwynfor
Cytuno gyda'r uchod. Nid bai ar yr actorion, achos mae'r mwyafrif yn actorion arbennig o dda, ond dyw e jyst ddim yn ddoniol!!

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Gwe 03 Medi 2010 9:57 am
gan Doctor Sanchez
Mae Shite/4C yn cal can miliwn o bunnoedd y flwyddyn i wario, a hwn a Fferm Ffactor ydi'r gora allan nhw gynhyrchu?

Oes na rywun yn S4C neu un o'r cwmniau cynhyrchu ma sy'n byw ar gefn S4C, sy'n fodlon edrych ar syniadau a sgriptiau comedi newydd?

Swn i'n lecio gwybod i ddeud y gwir, achos mae rhywun dwi'n nabod wedi sgwennu cyfres gomedi Gymraeg. Ti'n nabod rhywun Hedd?

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Gwe 03 Medi 2010 11:26 am
gan Hedd Gwynfor
Ddim yn nabod unrhyw un o fewn S4C mae arnai ofn. Mae modd cynnig syniadau ar eu gwefan - http://www.s4c.co.uk/production/rm/idea ... guage/wel/ - Wnes i unwaith, ond glywes i byth nol! Rhaid bod y syniad yn rhy dda... :crechwen:

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Gwe 03 Medi 2010 1:44 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Hedd- pam wyt ti wedi llofnodi y ddeiseb i atal torri cyllideb S4C? Ydio jesd yn bosib y byddai llai o bres yn arwain at ddeffroad, cic yn nhin, sianel mwy cymunedol...?
Mond gofyn.
Ta waeth, y cigydd yn trw tw laiff? Wel nacdi mewn ffordd achos mae archfarchnadoedd mawr barus wedi llwyddo i ddifa cannoedd o gigyddion ledled Cymru...
Byddai'n well gen i wylio Jim Bowen ar Bullseye na'r CACHU TARW yma (athrylith comedi :D )