Ista'n Bwl yn ei ol

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

Postiogan garynysmon » Sul 17 Hyd 2010 11:18 am

Dwi ddim yn dallt pam fod cymaint yn ei gasau. Dwi'n nabod llwyth sy'n ei wylio'n rheolaidd, mae o'n ddoniol 'fyd.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

Postiogan sian » Sul 17 Hyd 2010 11:48 am

Dwi ddim wedi gweld llawer ond mae 'na bethe reit ddigri yno.
Dwi'n meddwl bod cymeriadau John Glyn, Bryn Fôn a Llion a'r dafarnwraig yn dda.
Fyse Iolo'n well o lawer tyse fe ddim mor eithafol.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Mer 24 Tach 2010 6:22 pm

Diolch am y sylw a roddwyd i Eco'r Wyddfa 'chydig yn ol. Product placement?
Dwi wedi clywed (yn ystod dyddiau Blair yn rhif 10 Stryd Downing efallai) am joined up government...
Wel, beth am y syniad o ddiwylliant Cymraeg beiddgar sy'n joined up?
Gwell Byd Cymraeg :D
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

Postiogan Krankski coch » Iau 25 Tach 2010 7:41 pm

Reit, fel hyn dwi'n ei gweld hi, o bersbectif gwyliwr teledu :

Arlwy gomedi channel 4 ar y funud - IT Crowd, Misfits, Peep Show.....
s4c - Ista'n bwl...

A ma pobl wir yn synu fod ffigyrau gwylwyr yn isel?!

Dwi'n hollol gefnogol o s4c, on' i yn y brotest yng Nghaerdydd, ond ma rwbath o ddifri angen cal ei wneud am safon yr arlwy. Dwi jysd ddim yn dalld sut alith pobl ddim gweld hyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Krankski coch
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 201
Ymunwyd: Sul 13 Maw 2005 6:36 pm
Lleoliad: coedwig

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

Postiogan Doctor Sanchez » Iau 25 Tach 2010 8:48 pm

Krankski coch a ddywedodd:Reit, fel hyn dwi'n ei gweld hi, o bersbectif gwyliwr teledu :

Arlwy gomedi channel 4 ar y funud - IT Crowd, Misfits, Peep Show.....
s4c - Ista'n bwl...


Ti di taro'r hoelen ar i phen Kranski.

Dwi ar y funud yn sbio ar gyfres The Trip ar y BBC efo Coogan a Brydon yno fo, a mae o'n ffantastic!

Ma'r BBC yn fodlon cymeryd risg i roi pethau fel yma ar y teledu. Oedd y Royle Family a Early Doors run peth. Doeddan nhw ddim yn siwr iawn sud fysa Royle Family yn gweithio allan, yn enwedig y cast. Mi gymeron nhw jians, ac mae o wedi troi allan i fod yn un o'r rhaglenni comedi mwya llwyddiannus y ddeng mlynedd ddiwethaf.

Cymhara di hyn efo Istanbwl a Rownd a Rownd, a mae 'n neud i chdi isio crio.

Odd cyfres gyntaf Istanbwl yn gachu pur, so be mae S4C yn penderfynnu ei wneud? Rhoi dwy gyfres arall iddyn nhw!

Nesh i sbio ar Rownd a Rownd heno. O'n i'n sgrechian ar y teledu bron oedd o mor shit. Ma'r sgripts mor shit mae o'n anhygoel, a dwi di gweld gwell actio mewn ysgol feithrin. A mae hwn yn mynd ers faint wan, 10 mlynedd?

Dydy'r hanner dwsin o gwmniau cynhyrchu sy'n sugno ar dethi S4C mond a diddordeb mewn gwneud teledu sy'n hawdd. Gameshows cachu, Sgorio, Cefn Gwlad, Dechrau Canu Dechrau Canmol, documentaries am dim ffwtbol Caernarfon (ffor ffyc secs!) a Pobol y ffacin Cwm. Dwi'n siwr bod Hywel Llewelyn di ffwcio bob aelod o Gwmderi o leia deirgwaith erbyn hyn, rwan bod o mlaen bum gwaith yr wythnos.

A neith S4C ddim entyrtenio unrhywbeth newydd sa bod o'n dod drwy maffia'r cwmnioedd cynhyrchu Cymreig. Does ganddyn nhw ddim diddordeb mewn unrhywbeth gwahanol i'r bolycs arferol, felly mai'n closed shop i dalent newydd.

Mai'n fain 'ogia bach...
Not my fault. Monkey bastard hands!

WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?
Rhithffurf defnyddiwr
Doctor Sanchez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 160
Ymunwyd: Llun 10 Maw 2008 1:02 pm
Lleoliad: Ysbyty ManTywyll

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Gwe 26 Tach 2010 3:49 pm

Doctor Sansh- ti o blaid rhyw fath o Pobol-y-Cwm Hwyrach neu xxx?
Cofio gwylio un o benodau Alan Partridge yr wythnos diwethaf. 'Roedd yr hen Alan mewn bwyty hefo rhywun pwysig o'r bi-bi-ec...
"Can I have a second series...?

Mae'n holl bwysig fod S4C yn gallu chwerthin am ben ei hun yn ystod y cyfnod anodd yma. S4C- ffilmiwch rhyw fath o fersiwn Cymraeg/Cymreig o'r olygfa wych yma- cyd-destun argyfwng y sianel :lol: :lol: Hwb gwych i'r ffigyrau gwylio :lol:

A ydwyf yn euog o Schadenfreude? Na (a 'does gan yr Almaenwyr fawr o hiwmor, ond mater arall ydi hynny...)

Mae cachu tarw difyr ar S4C yn iawn. Ond scheisse diog? Dim diolch.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

Postiogan prypren » Mer 01 Rhag 2010 3:58 pm

Petae S4C wedi darlledu 'The Trip' bydde'r un rhestr o 'feirniaid' ar Maes e yn cael dolur rhydd fitriolig am ba mor wael ydi S4C. Allai glywed y sen amaturaidd rwan 'Dau twat cyfoethog yn deud dim byd..a dreifio car posh rownd llefydd posh..lats bach..lle mae hiwmor y wer di mynd...S4C di colli touch..ayyb hyd syrffed.

I anffodus aralleirio mae safon y feirniadaeth o ddeunydd S4C yn 'gachu rwts'.

Mae Istanbwl yn gredadwy, yn ddoniol, ac yn llawn cymeriadau dwi'n nabod. Mae'n well na 'The Trip' gan fod hwnnw yn ymylu'n rhy agos at hunanfogeilio / hunangariad diflas ac yn syml yn 'ddau dwat cyfoethog yn deud dim ac yn dreifio car posh rownd llefydd posh'
prypren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2010 12:40 pm

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

Postiogan bed123 » Mer 01 Rhag 2010 4:32 pm

Mae gwylio ar Istanbwl fel gwylio paent yn sychu.
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

Postiogan Doctor Sanchez » Mer 01 Rhag 2010 5:22 pm

prypren a ddywedodd:Petae S4C wedi darlledu 'The Trip' bydde'r un rhestr o 'feirniaid' ar Maes e yn cael dolur rhydd fitriolig am ba mor wael ydi S4C. Allai glywed y sen amaturaidd rwan 'Dau twat cyfoethog yn deud dim byd..a dreifio car posh rownd llefydd posh..lats bach..lle mae hiwmor y wer di mynd...S4C di colli touch..ayyb hyd syrffed.


Y pwynt o'n i'n drio neud oedd na fasa S4C fyth yn cysidro rwbath tebyg i 'The Trip' am fod o'n take newydd ar gomedi. Ddylia fo ddim gweithio achos mae o jest dau foi yn eistedd am hanner awr yn malu cachu am ffyc ol. Swn i'n feddwl fod o'n edrych yn uffernol ar bapur. Ond mae o'n gweithio, a mae o yn hileriys. Fysa comisiynwyr S4C wedi cymeryd un golwg ar y sgript a'i roi yn y bin, achos fod nhw'n ofn arbrofi efo concepts newydd.

prypren a ddywedodd:Mae Istanbwl yn gredadwy, yn ddoniol, ac yn llawn cymeriadau dwi'n nabod.


Ti'n onest yn meddwl hynny? Welis di rioed foi yn cerdded i fewn i byb yn nghefn gwlad Cymru efo hands free set ar ei glust ac yn siarad fel ma cymeriad Bryn Fon yn neud?
Dwi di yfed mewn lot o dafarnau a dydi pobl ddim yn siarad felna yn y byd go iawn.

A dydi o ddim yn ddoniol, mae o'n shit! Os tisio gweld comedi tafarn o safon sbia ar Early Doors, a wedyn cymhara sgil sgwennu'r ddau. Mae'r gwahaniaeth yn syfrdanol.
Not my fault. Monkey bastard hands!

WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?
Rhithffurf defnyddiwr
Doctor Sanchez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 160
Ymunwyd: Llun 10 Maw 2008 1:02 pm
Lleoliad: Ysbyty ManTywyll

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

Postiogan Ray Diota » Mer 01 Rhag 2010 5:40 pm

prypren a ddywedodd:I anffodus aralleirio mae safon y feirniadaeth o ddeunydd S4C yn 'gachu rwts'.


Dim sgwennu i Barn yden ni fan hyn cofia, ond ti'n iawn... ma ishe beirniadaeth fwy deallus o bryd i'w gilydd...

prypren a ddywedodd:Yn syml yn 'ddau dwat cyfoethog yn deud dim ac yn dreifio car posh rownd llefydd posh'


... Gwych. :rolio:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

NôlNesaf

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron