Tudalen 2 o 4

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Sad 04 Medi 2010 11:19 pm
gan Ray Diota
dafydd a ddywedodd:Ydi e dal i gael ei ffilmio yn fuan cyn darlledu?


Yn dilyn dadansoddiad fanwl o'r sgript a'r sefyllfa, dwi'n meddwl gath e'i ffilmio yn 1974.

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Gwe 10 Medi 2010 2:56 pm
gan Darth Sgonsan
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd: y cigydd yn trw tw laiff? Wel nacdi mewn ffordd achos mae archfarchnadoedd mawr barus wedi llwyddo i ddifa cannoedd o gigyddion ledled Cymru...


rwan rwan, mae cigyddion dal i fodoli yng Nghymru...ond dwi wedi clwad fod pennod wsos nesa' yn mynd i ymatewb i dy bryderon archfarchnadlud - bydd y cigydd lleol yn cael ffeit efo boi deliferi Tesco am bod o'n dwyn ei fusnas o - cyrainj affers a chomedi - dau am bris un - every little helps...

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Gwe 10 Medi 2010 4:36 pm
gan Josgin
O na , mae'r stori a rhaglen wedi eu difetha'n lan i mi ! . Y tensiwn, 'pace' a'r digwyddiadau annisgwyl, cyffrous sy'n gwneud y rhaglen yma mor anhepgorol i mi.

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Sad 11 Medi 2010 9:45 pm
gan garynysmon
'Mond fi sy'n licio fo felly ia?

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Sad 11 Medi 2010 11:48 pm
gan tom.j
Gwarth i ddarlledu Cymraeg....na hang on....gwarth i Ddarlledu!

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Llun 13 Medi 2010 11:04 pm
gan zorro
Am rhyw reswm mae teitl rhaglen gomedi o safon yn dod i feddwl wrth wylio'r rhaglen yma :

" Drop the Dead Donkey"!!

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Maw 14 Medi 2010 3:59 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Neges i John Waltz- digon yw digon. Ymddiswyddwch. Dim mwy o gachu tarw ar es-ffor-si. Beth fydd eich anrheg ymddeol (wel, na...sori...ymddiswyddo)?
Cwch cyflym y Bonwr Bowen ar Bwlsai....Just have a look at what you could have won :lol:

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Maw 28 Medi 2010 12:20 pm
gan prypren
Dwi'n rili mwynhau Istanbwl, mae o'n glyfar, yn ddoniol, yn llawn cymeriadau dwi'n nabod, ac yn emosiynol, gwych

Hoffen ni weld cyfres arall, gwylio bob pennod

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Gwe 15 Hyd 2010 11:27 am
gan tom.j
prypren a ddywedodd:Dwi'n rili mwynhau Istanbwl, mae o'n glyfar, yn ddoniol, yn llawn cymeriadau dwi'n nabod, ac yn emosiynol, gwych

Hoffen ni weld cyfres arall, gwylio bob pennod



Ydy Prypren yn byw mewn ysbyty meddwl neu a'i Dilwyn Pearce yw Prypren go iawn??

Re: Ista'n Bwl yn ei ol

PostioPostiwyd: Gwe 15 Hyd 2010 12:12 pm
gan prypren
'gan y gwirion ceir y gwir' tomi j