Distawrwydd llethol o gyfeiriad S4C

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Distawrwydd llethol o gyfeiriad S4C

Postiogan Llygad Llo Mawr » Sul 12 Medi 2010 12:39 pm

"Dwi'n meddwl fod gan y cyhoedd hawl i gael gwybod gan fod y sianel yn gorff sy'n derbyn arian cyhoeddus ac wedi ei sefydlu i gyflawni swyddogaeth unigryw o ran y Gymraeg a bod ei drefniadau mewnol a goruchwylio yn faterion o ddiddordeb cyhoeddus.

"Gan mai'r awgrym sy'n dod drwy'r datganiadau mai rhywbeth i'w wneud â rheolaeth a dulliau rheoli sydd wrth wraidd yr ymadawiad sydyn, fe ddylen ni gael gwybod be ydi'r materion mawr pwysig sy'n cael eu trafod."


Dyma eiriau Huw Jones (cyn Brif Weithredwr S4C) ar ol y diffyg eglurhad gan S4C ynglyn ag ymadawiad Iona Jones.

Mae John Walter Jones, cadeirydd S4C, wedi bod yn ddigon hy' a dweud "na fydd sylw pellach", ond mae Huw Jones yn llygad ei le. Mae gan y cyhoedd hawl i wybod.
Rhithffurf defnyddiwr
Llygad Llo Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 05 Awst 2010 10:43 pm

Re: Distawrwydd llethol o gyfeiriad S4C

Postiogan zorro » Llun 13 Medi 2010 10:30 pm

Dau gwestiwn :

a) Pwy sydd yn talu am S4C ?
b) I bwy mae Awdurdod S4C yn atebol ?

Os yw John Walter Jones o'r farn fod ganddo'r hawl i beidio ag ateb cwestiynnau ynglyn â sefyllfa drychunebus S4C ar y foment, yna mae'n amlwg wedi colli golwg ar y ddau bwynt sylfaenol yma.

Nid yw ei sefyllfa fel cadeirydd yr Awdurdod yn gynaladwy o dan y fath amgylchiadau.
zorro
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Mer 14 Ion 2009 11:23 pm


Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron