"Dwi'n meddwl fod gan y cyhoedd hawl i gael gwybod gan fod y sianel yn gorff sy'n derbyn arian cyhoeddus ac wedi ei sefydlu i gyflawni swyddogaeth unigryw o ran y Gymraeg a bod ei drefniadau mewnol a goruchwylio yn faterion o ddiddordeb cyhoeddus.
"Gan mai'r awgrym sy'n dod drwy'r datganiadau mai rhywbeth i'w wneud â rheolaeth a dulliau rheoli sydd wrth wraidd yr ymadawiad sydyn, fe ddylen ni gael gwybod be ydi'r materion mawr pwysig sy'n cael eu trafod."
Dyma eiriau Huw Jones (cyn Brif Weithredwr S4C) ar ol y diffyg eglurhad gan S4C ynglyn ag ymadawiad Iona Jones.
Mae John Walter Jones, cadeirydd S4C, wedi bod yn ddigon hy' a dweud "na fydd sylw pellach", ond mae Huw Jones yn llygad ei le. Mae gan y cyhoedd hawl i wybod.