Pentalar

Popgorn yn y gwaed neu gaethwas i'r bocs bach?

Cymedrolwr: Gwahanglwyf Dros Grist

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ffilmiau, rhaglenni dogfen, Teledu, Radio ayb. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pentalar

Postiogan prypren » Llun 01 Tach 2010 1:52 pm

Iechydwriaeth! roedd hon yn bennod wael. Mae'n rhaid fod actorion Cymru yn arbennigwyr ar grio, edrych yn ddiflas, sachlian a lludw, a ffilmio mewn stiwdios tywyll. Mae'n pen dramodwyr ni yn gor gredu fod marwolaeth yn golygu drama fawr, mae'n gallu gneud wrth gwrs, ond pan fod 'body count' Pen Talar yn agosau at lefelau Ramboesque, mae i gymeriad yn gicio'r fwced yn teimlo mwy fel esgeulustod na thragedi.
prypren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2010 12:40 pm

Re: Pentalar

Postiogan Manon » Llun 01 Tach 2010 2:12 pm

O'n i bron a chrio yn y bennod yma. Da iawn iawn wir. Ma' Ryland Teifi yn briliant.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pentalar

Postiogan Josgin » Llun 01 Tach 2010 2:47 pm

Crio achos bod y stori mor wael , ia ?
Crap llwyr oedd y bennod yma. I feddwl fod Sion Eirian wedi cael yr enw o fod yn foi gyda 'dychymyg ' .
Mae'n amlwg bellach fod yna cam-gastio difrifol wedi bod. Mae 'Defi' i fod yn wr carismatig, pwerus, ond y gwbl mae rhywun yn gweld ydi cadach gwlanan o fabi mam sy'n gwneud diawl o ddim heblaw edrych fel lemon drwy'r dydd.
Mae fy mhres i ar hunan-laddiad Defi neu Doug yn y bennod olaf , neu Sian yn ymuno a'r English Defence League.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Pentalar

Postiogan fatswalla » Sul 07 Tach 2010 10:07 pm

Blincin angladd os bu angladd erioed. Lle ma'r pice ar y ma'n â'r tê twym melys i dwymo nghalon drom.
fatswalla
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 9:10 am

Re: Pentalar

Postiogan Josgin » Sul 07 Tach 2010 11:14 pm

Os oedd y capel 'di cau ..........?
siom mawr
Mwy o Defi Lewis yn crio. A fu arwr mor druenus a di-fflach ar ein sgrin erioed ?
Mae hud a lledrith ar fryniau Dyfed o hyd. Nid yw neb yn heneiddio, ond mae hi'n aeaf parhaol yno !
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Pentalar

Postiogan tom.j » Sul 07 Tach 2010 11:17 pm

Diolch i Dduw bo'r gyfres 'ma di gorffen....dowt fydd 'na gyfres arall...ddim yn gweld S4C yn para 50 mlynedd arall!! Ond hang on beth sydd yn ei le? Cyfres predictable arall gan y dramodydd sydd ddim rili yn ddramodydd - Meic Povey! God help us all! UK Gold fydd hi nos Sul nesa fyd te!
tom.j
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 64
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2010 12:03 pm

Re: Pentalar

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 08 Tach 2010 12:00 pm

Neshi ddim mwynhau pennod wythnos dwytha ond mi wnes i fwynhau un neithiwr ac mi ddaeth a phopeth ynghyd yn ddigon twt.

Fuo 'na lot o gamgymeriadau bach gwirion drwy'r holl beth (un o'r gwaethaf oedd neithiwr gyda Sian yn honni ei bod hi wedi cymryd ei sedd yn y Cynulliad ym 1998...cym on de!) ac roedd o leiaf ddwy bennod wnes i ddim eu mwynhau o gwbl ond ar y cyfan dwi wedi mwynhau, yn sicr ddigon i wylio'r peth yn driw bob wythnos. Digon teg nad ydi pawb wedi mwynhau'r gyfres, dydi rhywun methu plesio pawb a dyna ddiwadd arni, ond rhaid i rywun gofyn be oedd pwynt i chi wylio a chithau'n ei gasáu cymaint!

Felly'n bersonol dydw i ddim yn meddwl bod Pen Talar wedi bod yn glasur, ond mi wnes fwynhau. Da oedd hi, dim mwy na llai.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pentalar

Postiogan fatswalla » Llun 08 Tach 2010 1:06 pm

Wnes i sticio efo'r gyfres am 'i bod hi'n wy ciwrad. . . yn addawol (os araf) i ddechrau. Ond y Cymry dramatig 'reverting to type' erbyn y ddwy bennod olaf. Poenus o hunan ystyriol, actio'r subtext, gormod o grio, dyn a wyr sut fase'r colur wedi edrych ar 'clirlun'! Cynhychydd ac awdur a fu ar un adeg yn dangos addewid ond sydd wedi diflannu lan ei dwll dan grisha ei hun. Mi oeddwn i isho crio neithiwr hefyd - dros farwolaeth y ddrama deledu yng Nghymru.
fatswalla
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 9:10 am

Re: Pentalar

Postiogan prypren » Llun 08 Tach 2010 2:25 pm

Siomedig ar y cyfan

Scriptio pregethwrol yn llefaru y ddrama yn hytrach nac yn ei gweld. Ceisio gwasgu denoument dramatic yn y bennod olaf.Ond doedd dim awgrym fod Lorraine wedi bod yn poeni'r hogiau am o leiaf pum pennod, ac yna'n sydyn yn y bennod olaf mae nhw'n cofio mae 'digwyddiad Lorraine' oedd gyrriant mawr eu perthynas. Mae'n annodd credu hefyd na fyddai llwybrau Brwmstan, Defi a Doug wedi croesi'n gynharach a fyntau fath ddyn busnes llwyddiannus.

Diogi yn y manylion

Os oedd Brwmstan yn athro ac yn flaenor yn 1963, dwi'n cymryd ei fod o o leiaf yn 25 oed fan lleiaf a felly dros saithdeg mlwydd oed yn 2009. Doedd yr actor ddim yn edrych mor hen a hynny.

Platiau L ar gar defi ddim D

Eira ar y mynydd ayyb

Yn gyffredinol dwi'n credu mae diogi cynhyrchiadol sydd wrth wraidd y problemau, mae rhywun yn rhywle am ba bynnag rheswm yn derbyn fod gwaith eilradd yn ddigon da iw ddarlledu
prypren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2010 12:40 pm

Re: Pentalar

Postiogan osian » Mer 10 Tach 2010 12:54 pm

Nesh i fwynhau'r bennod ola' ar y pryd, ond wrth sbio nol (wel, yn syth wedi iddi orffan deu' gwir), mi o'n i'n siomedig. Doedd y stori ddim yn ddigon cry' i orffan y gyfras yn fy marn i, mi alla 'na fwy fod wedi cael ei neud o'r stori cau ysgolion - rhwng hynny a stori Lorraine a Brwmstan yn dod i'r wyneb, mi fysa na fwy o densiwn rhwng Sian, Defi a Doug wedi gallu bod.

O'n i'n cymryd fod Brwmstan yn ei 30au o leia' yn y pennodau cynta' - o'n i'n cael mymryn o drafferth dychmygu mai felma sa fo'n edrach yn 2009!
A gyda llaw, ydi actorion Brwmstan a boi'r Blaid oedd yn cwrso Sian yn frodyr? Uffernol debyg...

Trafodaeth ar Taro'r Post rŵan.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Nôl

Dychwelyd i Ffilmiau, Teledu a Radio

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron