gan osian » Mer 10 Tach 2010 12:54 pm
Nesh i fwynhau'r bennod ola' ar y pryd, ond wrth sbio nol (wel, yn syth wedi iddi orffan deu' gwir), mi o'n i'n siomedig. Doedd y stori ddim yn ddigon cry' i orffan y gyfras yn fy marn i, mi alla 'na fwy fod wedi cael ei neud o'r stori cau ysgolion - rhwng hynny a stori Lorraine a Brwmstan yn dod i'r wyneb, mi fysa na fwy o densiwn rhwng Sian, Defi a Doug wedi gallu bod.
O'n i'n cymryd fod Brwmstan yn ei 30au o leia' yn y pennodau cynta' - o'n i'n cael mymryn o drafferth dychmygu mai felma sa fo'n edrach yn 2009!
A gyda llaw, ydi actorion Brwmstan a boi'r Blaid oedd yn cwrso Sian yn frodyr? Uffernol debyg...
Trafodaeth ar Taro'r Post rŵan.
"I'm hugely confused Ted!"